Newyddion

Gwneud gwelliannau ym Morden Lane

Wedi ei bostio ar Wednesday 20th January 2021

Gwnaed gwelliannau i lôn yn dilyn cwynion am dipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyflwynwyd i Gyngor Dinas Casnewydd.

Mae swyddogion y cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r tirfeddianwyr i rwystro mynediad i dir preifat ym Morden Lane sy'n rhedeg o Caerleon Road i York Road yn St Julians.

Y gobaith yw y bydd y gwaith o osod gatiau yn yr ardal hon, a ddechreuodd ar 11 Ionawr ac y dylid ei gwblhau yn y dyfodol agos, yn cael effaith gadarnhaol ac yn diogelu'r gymuned rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol pellach.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros drwyddedu a rheoleiddio: "Nid yw pobl sy'n dympio gwastraff yn hunanol yn ystyried aelodau eraill o'r gymuned na'r amgylchedd o gwbl.

"Yn yr achos hwn, yn ogystal â'r gost ariannol i'r tirfeddiannwr a'r cyngor, roedd rhaid defnyddio adnoddau gwerthfawr ein swyddogion amgylcheddol ar adeg pan fônt hefyd yn delio â dyletswyddau rheoleiddio ychwanegol sylweddol o ganlyniad i'r pandemig.

"Mae'n dangos, er gwaethaf y gwaith ychwanegol y mae'n rhaid iddynt ei wneud ar hyn o bryd, eu bod yn dal i wneud gwaith hanfodol i ddiogelu ein cymunedau.  Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymroddiad"

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.