Newyddion

Cabinet i ystyried cyllideb 2021/22 yn ddiweddarach yr wythnos hon

Wedi ei bostio ar Monday 4th January 2021

Bydd cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn trafod cynigion cyllideb y flwyddyn nesaf mewn cyfarfod ddydd Gwener 8 Ionawr.

Mae'r Cyngor yn darparu dros 800 o wasanaethau i fwy na 156,000 o bobl sy'n byw mewn mwy na 69,000 o gartrefi. 

Yn 2021-22 bydd y Cyngor yn wynebu diffyg o tua £5 miliwn i ariannu'r un lefel o wasanaethau er gwaethaf cynnydd yn setliad drafft Llywodraeth Cymru a fydd yn ariannu tri chwarter cyllideb y Cyngor.

Amcangyfrifir hefyd y bydd yn rhaid dod o hyd i arbedion gwerth bron i £10 miliwn dros y tair blynedd nesaf.  Daw hyn ar ben arbedion o £35 miliwn dros y pum mlynedd flaenorol drwy gyfres o fesurau gan gynnwys gostyngiad sylweddol mewn staff.

Gofynnir i'r Cabinet gytuno pa gynigion ddylai fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus gan gynnwys argymhelliad o gynnydd o bump y cant yn y dreth gyngor.

Mae hyn yn digwydd yn hwyrach nag arfer, oherwydd na ddaeth adolygiad cynhwysfawr o wariant y llywodraeth ganolog i ben tan ddiwedd mis Tachwedd a olygai fod oedi yn setliad drafft Llywodraeth Cymru.

Bydd gan breswylwyr, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid, megis y Comisiwn Tegwch annibynnol, y cyfle i ddweud eu dweud ar gynigion y gyllideb yn dilyn y cyfarfod ddydd Gwener.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Mae'r cynnydd arfaethedig mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu'n fawr ac mae gweinidogion wedi cadw eu haddewid i ddarparu cyllideb sy'n canolbwyntio ar ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau lleol.

"Rydym wedi asesu'n ofalus sut y gellir defnyddio'r cymorth ariannol ychwanegol hwn er budd cymunedau a'r ddinas.

"Dylid nodi bod ein cyllideb yn dal yn llai nag yr oedd dros ddegawd yn ôl yn dilyn blynyddoedd o fesurau llymder cenedlaethol ac roedd y llynedd yn heriol dros ben. Effeithiodd Covid-19 ar y ffordd yr oeddem yn darparu ein gwasanaethau o ddydd i ddydd gan gynyddu'r galw am rai gwasanaethau yn ogystal â newid y ffordd yr oedd yn rhaid i'r Cyngor weithredu.

"Mae hyn yn erbyn cefndir o alwadau cynyddol am wasanaethau, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol ac addysg, nad ydynt yn dangos unrhyw arwydd o leihau wrth i'r ddinas barhau i dyfu a bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i arbedion am rai blynyddoedd i ddod. 

"Ond byddwn hefyd yn buddsoddi mewn gwasanaethau a'r ddinas lle bynnag y bo modd.  Yr wyf yn falch ein bod, unwaith eto, yn bwriadu bodloni gofynion ein hysgolion yn llawn drwy ariannu eu cyllideb yn llawn.

"Yn draddodiadol, mae cyfradd treth gyngor Casnewydd wedi bod ymhlith yr isaf yng Nghymru a phe byddem yn ei chodi yn unol â'r cyfartaledd yng Nghymru, gallem godi £8 miliwn arall tuag at ein gwariant.

"Fodd bynnag, rydym am sicrhau cydbwysedd er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar ein trigolion a chadw'r cynnydd i lefel resymol ac yn is na'r flwyddyn ddiwethaf.  Byddai'r cynnydd arfaethedig yn costio 77c i £1.02 yr wythnos yn ychwanegol i'r rhan fwyaf o aelwydydd yng Nghasnewydd.

"Bydd y cabinet yn cwblhau cynigion y gyllideb yn ein cyfarfod ddydd Gwener cyn mynd allan i ofyn i bobl Casnewydd am eu barn ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw."

Mae agenda ac adroddiadau cyfarfod y cabinet ar gael ar-lein.  Gallwch hefyd weld mwy am ffynonellau cyllid y Cyngor a'r her gyffredinol sy'n wynebu'r gyllideb yng Nghyllideb 2021-2022 | Cyngor Dinas Casnewydd

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, bydd y cabinet yn cyfarfod ar 22 Chwefror 2021 i wneud eu hargymhellion ar y gyllideb derfynol i'r Cyngor llawn ar 3 Mawrth 2021.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.