Newyddion

Cabinet yn cytuno i ymgynghori ar gynigion y gyllideb

Wedi ei bostio ar Friday 8th January 2021

Cabinet yn cytuno i ymgynghori ar gynigion y gyllideb

Mae ymgynghoriad ar gyfres o gynigion cyllideb 2021/22 yn dechrau heddiw ar ôl i gabinet Cyngor Dinas Casnewydd gytuno i ymgynghori.

Dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jane Mudd:  "Rydym am glywed barn ein trigolion, ein busnesau a'n rhanddeiliaid am gynigion eleni.

"Byddwn hefyd yn ymgynghori â grwpiau penodol fel cynrychiolwyr ysgolion, y Comisiwn Tegwch annibynnol ac undebau llafur. Bydd yr ymatebion gan bawb, gan gynnwys aelodau unigol o'r cyhoedd, yn cael eu hystyried yn ofalus cyn i ni wneud ein hargymhellion terfynol i'r cyngor llawn."

Mae'r cyngor yn darparu dros 800 o wasanaethau i fwy na 156,000 o bobl sy'n byw mewn mwy na 69,000 o gartrefi. 

Yn 2021/22 bydd y Cyngor yn wynebu diffyg o tua £5 miliwn i ariannu'r un lefel o wasanaethau er gwaethaf cynnydd yn setliad drafft Llywodraeth Cymru a fydd yn ariannu tri chwarter cyllideb y Cyngor.

Amcangyfrifir hefyd y bydd yn rhaid dod o hyd i arbedion gwerth bron i £10 miliwn dros y tair blynedd nesaf.  Daw hyn ar ben arbedion o £35 miliwn dros y pum mlynedd flaenorol drwy gyfres o fesurau gan gynnwys gostyngiad sylweddol mewn staff.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mudd: "Rydym yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig cynnydd yn ein cyllid a'i bod wedi gwireddu ei hymrwymiad i ganolbwyntio ar ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus.

"Rydym wedi asesu'n ofalus sut y gellir defnyddio'r cymorth ariannol ychwanegol hwn er budd cymunedau a'r ddinas.

"Daw ar ôl blynyddoedd o fesurau llymder cenedlaethol a'r heriau rydym yn eu hwynebu yn y flwyddyn ariannol hon o ganlyniad i'r pandemig.  Mae'r galw am ein gwasanaethau, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol ac addysg, yn parhau i dyfu.

"Fodd bynnag, rwy'n falch ein bod yn cynnig bodloni gofynion cyllidebol yr ysgolion yn llawn a bydd rhai o'r arbedion posibl yn cael effaith gadarnhaol ar y ddinas.

"Er enghraifft, y posibilrwydd o gau cartref plant Cambridge House. Nid yw'r eiddo hwn yn addas at y diben mwyach a, diolch i gyllid allanol, mae ein rhaglen i greu cartrefi plant newydd yn y ddinas, yn darparu lefel uchel o ofal mewn lleoliadau mwy priodol, yn mynd yn ei blaen yn dda.

"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i helpu Casnewydd i ffynnu a thyfu drwy ddarparu'r cyfleusterau a'r amgylchedd y mae ein trigolion yn eu haeddu."

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i https://www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/About-the-council/Budget-consultation-2021-2022.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.