Safle profi Covid-19 ychwanegol yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Thursday 28th January 2021
Mae safle profi lleol (SPLl) yn agor yng Nghasnewydd ddydd Iau 28 Ionawr yn rhan o ymgyrch y llywodraeth i wella mynediad trigolion at brofion Covid-19.
Bydd trigolion Dyffryn yn gallu archebu prawf yn y safle profi lleol ym maes parcio’r Duffryn Arms ar Duffryn Drive.
O ddydd Sadwrn, bydd yn gweithredu rhwng 8am ac 8pm. Mae'r safle profi yn gwasanaethu'r gymuned leol felly gall y rheiny sydd angen prawf gerdded i’r safle yn lle gyrru yno.
Os oes gennych unrhyw symptomau Coronafeirws (Covid-19) – peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a/neu arogl, trefnwch brawf cyn gynted â phosibl.
Ffoniwch 119 neu ewch i www.gov.uk/get-coronavirus-test
Os oes gennych symptomau, dylech chi ac unrhyw aelodau o'r cartref ynysu ar unwaith. Dylai eich cartref cyfan barhau i ynysu nes y daw canlyniad y prawf i law. Os yw'r prawf yn bositif, dylai holl aelodau'r cartref a chysylltiadau agos barhau i ynysu am 10 diwrnod yn unol â'r canllawiau presennol.
Hyd yn oed os cewch ganlyniad negatif, mae Cymru bellach ar rybudd lefel 4 gyda chyfyngiadau aros gartref ar waith.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i nodi safleoedd sy'n galluogi trigolion i gael prawf yn haws.