Gallai cynlluniau ar gyfer canolfan hamdden newydd symud i'r cam nesaf
Wedi ei bostio ar Wednesday 17th February 2021
Gallai cynlluniau i greu cyfleusterau hamdden modern a champws addysg bellach yng nghanol y ddinas gymryd cam arall ymlaen yr wythnos nesaf.
Bydd safle tir llwyd allweddol wrth ymyl yr afon yn dod yn gartref i ganolfan hamdden a lles newydd a gallai Coleg Gwent wireddu ei uchelgais i gael campws yng nghanol y ddinas.
Bydd cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn ystyried argymell adeiladu'r ganolfan a gwaredu safle Canolfan Casnewydd mewn cyfarfod ar 22 Chwefror.
Mae'n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd dros 1,000 o ymatebion gyda'r mwyafrif llethol yn cefnogi'r datblygiadau newydd arfaethedig.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Cawsom ymateb gwych i'r ymgynghoriad er gwaethaf gorfod cwblhau bron pob un o'r ymatebion ar-lein oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws.
"Mae'n amlwg bod pobl yn rhannu ein barn bod trigolion yn haedducyfleusterau hamdden o'r 21ain ganrif a champws coleg o'r radd flaenaf. Yn ogystal â chadw pobl yn iach a darparu amgylchedd addysgol rhagorol, bydd manteision ehangach i'r datblygiadau gan gynnwys denu mwy o bobl i ganol y ddinas.
"Roedd y safbwyntiau ar yr opsiwn a ffefrir ar gyfer y cymysgedd o gyfleusterau hamdden bron wedi'u rhannu'n hafal, a bydd y rhain yn cael eu hystyried wrth i'r prosiect fynd rhagddo ac wrth fireinio'r dyluniad. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y ganolfan newydd yn gynaliadwy ac mor ecogyfeillgar â phosibl.
"Rydym yn dal i fod yng nghamau cynnar y weledigaeth gyffrous hon ar gyfer y dyfodol a bydd cyfleoedd pellach ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu, yn enwedig yn ystod y cam cais cynllunio.
"Fel cabinet, byddwn yn ystyried argymhellion y swyddogion a'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad yn ein cyfarfod yr wythnos nesaf."