Newyddion

Mis Hanes LHDT+

Wedi ei bostio ar Thursday 4th February 2021

Eleni, bydd Cyngor Dinas Casnewydd unwaith eto yn nodi Mis Hanes LHDT+, a bydd yn chwifio'r faner Cynnydd yn y Ganolfan Ddinesig trwy gydol mis Chwefror.

Mae Mis Hanes LHDT+. yn ddathliad mis o hyd ac yn cydnabod hawliau, dyrchafiad a chynhwysiant pobl LHDT+. Eleni y thema yw ‘Corff, Meddwl, Ysbryd’ a byddwn yn rhannu ystod o adnoddau, digwyddiadau a gweithgareddau dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor: "Rwy'n falch o gyhoeddi ein cefnogaeth unwaith eto ar gyfer mis hanes LHDT+. Er y bydd digwyddiadau’n edrych yn wahanol iawn eleni, mae’n bwysicach nag erioed dod at ei gilydd a chydnabod y gwerth y mae amrywiaeth yn ei ddwyn i bawb sy’n byw yng Nghasnewydd.

"Rwy'n falch o gyhoeddi ein bod eleni yn chwifio'r faner Cynnydd i nodi'r achlysur. Mae'r faner hon yn cynnwys stribedi i gynrychioli pobl LHDTC+ sy’n cael eu gwthio i ymylon cymdeithas, ac mae'n ymgorffori baner balchder trawsryweddol, gan gydnabod ehangder hunaniaethau rhywiol a rhywedd yr ydyn ni’n eu croesawu yma yng Nghasnewydd.

"Rwyf hefyd yn falch y bydd ein rhwydwaith staff LHDTC+ cyntaf yn cael ei lansio yn swyddogol y mis hwn.

"Mae ein rhwydweithiau staff yn darparu mannau pwysig a diogel i staff ddod at ei gilydd a thrafod eu profiadau o fewn y sefydliad, darparu cefnogaeth cymheiriaid, ac yn bwysicaf oll, dylanwadu ar ein harferion gwaith a'n polisïau i wneud Casnewydd yn ddinas well a mwy cynhwysol i bawb."

Mae rhagor o wybodaeth am fis hanes LHDT+ ar gael yn https://lgbtplushistorymonth.co.uk/

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.