Newyddion

Goyfn i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llyswyry hunanynysu

Wedi ei bostio ar Wednesday 9th September 2020

Gofynnwyd i ddisgyblion blwyddyn saith Ysgol Uwchradd Llyswyry hunanynysu ar ôl i ddisgybl brofi'n bositif ar gyfer Covid-19.

Effeithir ar tua 185 o ddisgyblion a chymerwyd camau i gysylltu â rhieni a gofalwyr a sicrhau y gall disgyblion ddychwelyd adref yn ddiogel ac yn briodol.

Mae mesurau ar y safle ar waith i sicrhau nad yw disgyblion blwyddyn saith mewn cysylltiad ag unrhyw ddisgyblion eraill tra bo'r broses hon yn cael ei chwblhau.

Gofynnwyd i'r disgyblion aros gartref am 14 diwrnod fel mesur rhagofalus er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ledaenu’r feirws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Mae gwaith glanhau penodedig yn digwydd a bydd pob grŵp blwyddyn arall yn parhau i fynychu'r ysgol yn ôl yr arfer.

Mae gweithdrefnau eisoes ar waith ym mhob ysgol yng Nghasnewydd i gyfyngu ar niferoedd grŵp a chyswllt disgyblion, ynghyd â chyfundrefnau glanhau gwell. Nid oes angen i unrhyw un na chysylltwyd ag ef hunanynysu na phryderu’n ormodol am hyn.

Anogir pob preswylydd i fod yn wyliadwrus o Covid-19 a pharhau i ddilyn canllawiau cenedlaethol i helpu i fynd i'r afael â lledaeniad y feirws.

Mae staff yr ysgol yn parhau i fod yn wyliadwrus i ddisgyblion sy'n arddangos unrhyw symptomau, ac maent yn barod i gymryd camau priodol. Gall rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid gefnogi hyn drwy fod yn bwyllog a sicrhau nad yw plant yn mynychu'r ysgol os ydynt yn datblygu unrhyw symptomau posibl, waeth pa mor ysgafn.