Newyddion

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl gymwys yng Nghymru i gael brechlyn ffliw am ddim

Wedi ei bostio ar Monday 21st September 2020
BeatFlu-PrimaryLogo

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog yr holl bobl gymwys yng Nghymru i gael eu brechlyn ffliw am ddim wrth i GIG Cymru ddechrau ei raglen genedlaethol fwyaf erioed i frechu rhag y ffliw.

Gall y ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i'r rhai sy'n hŷn neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i gymhlethdodau o ganlyniad i'r ffliw. Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw.

Mae'r rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG yn cynnwys pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl 65 oed a throsodd, menywod beichiog, plant rhwng dwy a deg oed, gofalwyr, gofalwyr cartref a staff cartrefi gofal gyda chyswllt rheolaidd â chleientiaid yn ogystal â phreswylwyr cartrefi gofal.

Mae hefyd am ddim i ymatebwyr Cyntaf Cymunedol a gwirfoddolwyr sy'n darparu cymorth cyntaf wedi'i gynllunio. Mae brechlyn ffliw blynyddol yn cael ei argymell yn gryf ar gyfer yr holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen i amddiffyn eu hunain a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt.

Bydd plant dwy a thair oed (ar 31 Awst 2020) a phob plentyn ysgol gynradd (dosbarth derbyn hyd at flwyddyn chwech) yn cael cynnig y brechlyn ar ffurf chwistrell drwynol. Gall plant o ddwy oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor dderbyn chwistrell drwynol ffliw am ddim hefyd.

Ar gyfer rhaglen ffliw'r tymor hwn, mae grwpiau newydd wedi'u hychwanegu at y rhestr gymwys, sy'n golygu mai dyma'r rhaglen ffliw genedlaethol fwyaf erioed.

Mae'r grwpiau cymwys newydd yn cynnwys cysylltiadau cartref ar restr y GIG o'r bobl a warchodir a phobl ag anabledd dysgu.

Yn ogystal, efallai y bydd pobl 50 oed a throsodd hefyd yn cael cynnig brechlyn ffliw am ddim gan y GIG yn ddiweddarach yn y tymor.

I hyrwyddo'r brechlyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch sy'n cynnwys hysbyseb deledu a radio newydd yn ogystal â chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol a digidol. Bydd yr ymgyrch yn fyw o 21 Medi, gyda'r hysbyseb deledu yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar 5 Hydref.

Datgelodd ymchwil a gynhaliwyd gan YouGov, ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, y dywedodd 68 y cant o'r bobl a atebodd y byddent yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim yn ‘debygol iawn’ o gael y brechlyn eleni.

Ar yr un pryd, datgelodd y data hefyd fod 50 y cant o'r ymatebwyr a atebodd y byddent yn gymwys o'r farn bod cael brechlyn ffliw yn ‘llawer pwysicach’ eleni o ganlyniad i'r Coronafeirws Newydd (COVID-19).

Dywedodd Casey Keegans, rheolwr ward iechyd meddwl yn Hafan y Coed yn Ysbyty Llandochau ac un o'r ‘Hyrwyddwyr Ffliw’ presennol:

“Mae bob amser wedi bod yn bwysig cael eich brechlyn ffliw, ond yn enwedig eleni oherwydd pandemig COVID-19.

“I ni, cawsom gynnydd yn bendant o ran derbyniadau a phobl y mae angen cymorth iechyd meddwl arnynt o ganlyniad i'r straen o'r pandemig. Dyna pam rydym yn ffodus bod gennym frechlyn i helpu i'n hamddiffyn rhag y ffliw, a all fod yn cylchredeg ar yr un pryd â COVID-19 y gaeaf hwn.

“Rwy'n gwybod y gall cael eich brechu beri pryder, ond mae digon o weithwyr iechyd proffesiynol fel nyrsys, fferyllwyr a meddygon teulu a fydd yn gallu rhoi sicrwydd i chi a'ch cefnogi.

“Drwy gael y brechlyn ffliw, rydym nid yn unig yn amddiffyn ein hunain, ond rydym hefyd yn amddiffyn y rhai o'n cwmpas, yn enwedig unigolion â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes.”

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Eleni rydym yn ymestyn y brechlyn ffliw i fwy o bobl nag erioed o'r blaen. Mae ffliw yn lledaenu'n hawdd iawn a gall unrhyw un ei gael. Fodd bynnag, mae'n arbennig o beryglus i bobl sy'n fwy agored i niwed, fel y rhai â chyflyrau iechyd hirdymor a menywod beichiog.

“Y gaeaf hwn, gyda phresenoldeb parhaus Covid-19 rydym am sicrhau bod mwy o bobl yn cael y brechlyn ffliw, dyna pam rydym wedi cynyddu'r grwpiau cymwys.

“Rwy'n deall y gall rhai pobl fod yn bryderus am fynd i'w fferyllfa gymunedol neu feddygfa meddyg teulu i gael eu brechlyn oherwydd COVID-19, ond bydd meddygfeydd a fferyllfeydd yn dilyn yr arferion diogelwch diweddaraf.

“Rwy'n annog yn gryf y rhai sy'n gymwys i gael eu brechlyn cyn gynted â phosibl er mwyn helpu i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd a'u cymuned.”

Meddai Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae feirysau'r ffliw yn lledaenu'n hawdd a gallant fod yn ddifrifol iawn i bobl hŷn a'r rhai â chyflyrau iechyd. Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty neu unedau gofal dwys gyda'r ffliw.

“Dylai unrhyw un yr argymhellir eu bod yn cael brechiad rhag y ffliw drefnu apwyntiad cyn gynted â phosibl.

“Mae feirysau'r ffliw yn newid bob blwyddyn felly mae pawb mewn perygl o gael y ffliw. Mae'r brechlyn rhag y ffliw yn amddiffyn tri i chwech o bob 10 o bobl sy'n cael eu brechu. Dyma pam ei bod mor bwysig cael y brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn – i sicrhau eich bod yn cael yr amddiffyniad gorau posibl.”

Gall unrhyw un ddal y ffliw. Mae'r symptomau yn debygol o gynnwys; twymyn, oerfel, blinder a gwendid, pen tost, poenau cyffredinol a pheswch sych, ar y frest. Mewn hyd at hanner yr achosion gall pobl gael ffliw heb hyd yn oed sylweddoli hynny – a gallant ei ledaenu i eraill o hyd.

 Mae rhai symptomau COVID-19 yn debyg i'r ffliw felly edrychwch ar y cyngor diweddaraf a dilyn y canllawiau presennol ar COVID-19.

 I helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledaenu, cofiwch ‘Ei Ddal, Ei Daflu, Ei Ddifa.’

Y tymor ffliw hwn, efallai y bydd y trefniadau yn wahanol oherwydd y Coronafeirws Newydd (COVID-19). I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i www.curwchffliw.org neu www.beatflu.org neu chwiliwch am Curwch Ffliw neu Beat Flu ar Twitter a Facebook.  

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.