Newyddion

Y cam nesaf i fynd i'r afael â pharcio anghyfreithlon yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 2nd September 2020

Mae cerbyd gorfodi symudol a lansiwyd ar 24 Awst yn rhan o ymdrech barhaus y cyngor i fynd i’r afael â pharcio’n anghyfreithlon. 

Ers cyflwyno gorfodi parcio sifil ym mis Gorffennaf y llynedd, mae dros 22,000 o Hysbysiadau Tâl Cosb wedi'u cyflwyno i yrwyr sy'n parcio'n anghyfreithlon ar draws y ddinas.

Mae adborth y cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn, ond mae adroddiadau wedi dangos bod problemau o hyd yn yr ardaloedd o amgylch ysgolion.

I helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn, mae'r Cyngor yn cyflwyno cerbyd gorfodi symudol newydd i orfodi llinellau igam ogam y tu allan i ysgolion, yn ogystal â chroesfannau i gerddwyr, lonydd bysus, safleoedd tacsis, clirffyrdd a chyfyngiadau dim llwytho.

Bydd yn hawdd adnabod y car, gyda’i gamerâu ar y to a logos amlwg yn dweud 'cerbyd gorfodi parcio' yn glir yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae'r cerbyd newydd hefyd yn un hybrid, a fydd yn lleihau ei effaith ar yr amgylchedd.

Bydd modurwyr sy'n cael eu dal yn parcio'n anghyfreithlon yn cael Hysbysiad Tâl Cosb trwy’r post gyda dirwyon ar yr un lefel – £70 (a gostyngiad o 50 y cant os telir o fewn 7 diwrnod).

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau’r Ddinas: "Mae'r cerbyd gorfodi parcio symudol pwrpasol hwn yn fuddsoddiad a fydd yn gwella diogelwch y cyhoedd ac yn ehangu gallu'r Cyngor i fynd i'r afael yn effeithiol â blaenoriaethau gorfodi allweddol ymhob ardal, ond yn enwedig y mannau sydd wedi eu hadnabod fel y rhai â mwyaf o broblemau. 

"Ein nod yw lleihau nifer y cerbydau sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon y tu allan i ysgolion, mewn safleoedd bysus ac ar groesfannau i gerddwyr, gan felly ddarparu llwybrau mwy diogel ar gyfer cerdded a beicio ar draws Casnewydd."

Bydd y car yn dechrau patrolio ddydd Llun 24 Awst gyda ffocws ar ddiogelwch i'r rhai sy'n dychwelyd i'r gwaith ac i'r ysgol ym mis Medi.

Bydd tîm newydd o Swyddogion Gorfodi Sifil, wedi’u cyflogi gan y Cyngor, yn patrolio’r ddinas.

Bydd y swyddogion hyn yn gallu gorfodi’r holl gyfyngiadau parcio ar y briffordd gyhoeddus os yw cerbyd wedi’i barcio’n anghyfreithlon, gan gynnwys:

  • parcio ar linellau melyn
  • parcio’n hwy nag a ganiateir mewn mannau parcio
  • parcio o flaen cyrbau isel
  • parcio ymhellach na 50cm o ymyl y cwrbyn

Bydd cyfyngiadau traffig eraill yn parhau i gael eu gorfodi gan Heddlu Gwent, gan gynnwys troseddau traffig sy’n symud, parcio peryglus ac ati.

I gael rhagor o wybodaeth am orfodi parcio sifil ewch i www.newport.gov.uk/cpe

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.