Newyddion

Annog trigolion Casnewydd i fod yn wyliadwrus o symptomau'r Coronafeirws wrth i achosion godi

Wedi ei bostio ar Monday 14th September 2020

Anogir y cyhoedd yng Nghasnewydd i fod yn wyliadwrus o symptomau’r Coronafeirws ac o'r angen hanfodol i gadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol, gan fod y cynnydd mewn achosion yn peri pryder.

Cynghorir pobl sydd wedi ymweld â nifer o dafarndai a bariau yn y ddinas hefyd i fod yn fwy gwyliadwrus o symptomau’r Coronafeirws, ac i hunan-ynysu ac archebu prawf ar unwaith os bydd symptomau'n dod i’r amlwg.

Dylai pobl gadw llygad allan am symptomau os ydynt wedi ymweld â'r safleoedd canlynol, gan fod pobl wedi ymweld â'r safleoedd hyn tra eu bod yn heintus:

  • Breeze ar Cambrian Rd ar 4 a 5 Medi
  • The Potters ar Upper Dock St ar 5 Medi
  • Break 'n' Dish ar Stow Hill rhwng 1 ac 8 Medi
  • Tiny Rebel Tŷ-du ar Ystâd Ddiwydiannol y Wern ar 6, 7 ac 8 Medi
  • Ye Olde Bull Inn ar High St, Caerllion ar 4 Medi
  • The Handpost ar gyffordd Risca Road/Bassaleg Road ar 8 Medi
  • Three Horseshoes ar Pillmawr Rd ar 6 Medi

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi bod yn gweithio'n agos gyda busnesau i sicrhau eu bod yn bodloni'r gofynion ar gyfer gweithredu diogel, ond mae angen atgoffa pawb i gadw at gyfyngiadau a chanllawiau ymbellhau wrth fynychu safleoedd o'r fath.

Mae pobl hefyd yn cael eu hannog i gydymffurfio â Phrofi, Olrhain, Diogelu a darparu digon o wybodaeth gyswllt, fel y gellir rhoi gwybod iddynt am unrhyw achosion neu risg cyn gynted â phosibl.

Daw'r cyngor wrth i ymchwiliad gael ei lansio i'r cynnydd yn y Coronafeirws yn yr ardal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae nifer cronnol yr achosion yng Nghasnewydd dros y saith diwrnod diwethaf wedi codi i 43.3 fesul 100,000, sef y pedwerydd nifer uchaf o achosion yng Nghymru y tu ôl i Gaerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Heather Lewis, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd yr IMT amlasiantaethol:

"Rydym yn ddiolchgar i'r mwyafrif helaeth o drigolion Casnewydd am gadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol, ac am gydweithio ag ymchwiliadau i ledaeniad y Coronafeirws yn yr ardal.  Maent wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o amddiffyn pobl hŷn a bregus rhag y Coronafeirws. 

"Yn anffodus, mae tystiolaeth fod rhai pobl yn anwybyddu canllawiau ymbellhau cymdeithasol, yn methu â hunan-ynysu pan mae ganddynt symptomau ac, mewn nifer fach o achosion, yn anonest gyda Swyddogion Olrhain Cysylltiadau ynghylch pwy maen nhw wedi’u cyfarfod tra'n heintus.

"Ein neges i'r cyhoedd yw nad yw’r Coronafeirws wedi diflannu, a gall fod yn salwch difrifol iawn - yn enwedig i bobl hŷn a bregus.

"Mae gan y cyhoedd rôl hanfodol o ran atal y Coronafeirws rhag lledu, drwy gydymffurfio â chanllawiau ymbellhau cymdeithasol bob amser – sef aros dwy fetr oddi wrth eraill - golchi dwylo'n rheolaidd gyda sebon neu ddiheintydd dwylo alcohol, a gweithio gartref os gallan nhw.

"Os ydych chi neu aelod o'ch aelwyd yn datblygu peswch, twymyn neu newid yn yr ymdeimlad o flas neu arogl, rhaid i chi drefnu prawf Coronafeirws yn brydlon er mwyn helpu i reoli lledaeniad yr haint.

"Rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan, yn gyson ac am gyfnod amhenodol, i amddiffyn ein ffrindiau, aelodau o'r teulu ac anwyliaid sy'n hŷn neu’n fregus."

Gellir trefnu prawf Coronafeirws am ddim drwy wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio 119 am ddim rhwng 7am ac 11pm.