Newyddion

Camau i ymdrin â chynnydd mewn achosion Coronafeirws yng Nghaerffili

Wedi ei bostio ar Tuesday 8th September 2020

Datganiad gan Fforwm Cydnerthedd Lleol Gwent

Camau i ymdrin â chynnydd mewn achosion Coronafeirws yng Nghaerffili

Bydd nifer o fesurau newydd yn dod i rym ddydd Mawrth am 6pm er mwyn lleihau nifer yr achosion newydd o heintio gan coronafeirws. Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy’n byw yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:

  • Dim ond ar gyfer teithio hanfodol neu waith y bydd modd i bobl ddod i mewn i neu adael ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili;
  • Bydd angen i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb y tu fewn i adeiladau;
  • Dim ond yn yr awyr agored y caiff bobl gyfarfod – ni chaniateir i bobl gyfarfod ag eraill y tu mewn ac ni chaniateir aelwydydd estynedig.  Ni chaniateir aros dros nos.

Mae partneriaid ar draws Gwent yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwybodaeth i drigolion cyn bod mesurau’n dod i rym am 6pm yfory.  Hoffem sicrhau trigolion y byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi cyn gynted ag y gallwn yfory.

Ewch i: https://llyw.cymru/cyfyngiadau-lleol-i-reolir-coronafeirws-yn-sir-caerffili 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.