Newyddion

Gwaith sylweddol i waredu coed anniogel yn cau ffordd

Wedi ei bostio ar Friday 11th September 2020

Mae arolwg diweddar wedi dangos bod angen gwneud gwaith brys i gwympo nifer sylweddol o goed aeddfed ar hyd rhan o Caerleon Road oherwydd y clefyd gwywo difrifol ar goed ynn. 

Bydd yn hanfodol cau darn o’r ffordd yn gyfan gwbl i gerddwyr, beicwyr a cherbydau am resymau diogelwch tra bo'r gwaith mawr hwn yn cael ei wneud gan gontractwyr arbenigol.

Dim ond mynediad dan reolaeth i eiddo o fewn yr ardal ar gau a ganiateir drwy gydol y project, y disgwylir iddo bara tua 50 diwrnod.

Bydd angen peiriannau mawr i gwympo'r coed ar hyd dwy ochr y darn hwn o’r ffordd, gan ddechrau ger St Julian’s Inn a hyd at y gyffordd â New Road.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn dau gam er mwyn gallu cynnal mynediad i eiddo o fewn yr ardal cymaint â phosibl. Bydd Sant Julian’s Inn yn gallu aros ar agor i fusnes yn ystod y gwaith ond bydd y llwybr mynediad yn newid, gan ddibynnu ar y rhaglen waith.

Bydd contractwyr yn gweithio saith diwrnod yr wythnos, gyda rhai tasgau risg isel yn cael eu cyflawni yn ystod oriau tywyllwch, i gwblhau’r gwaith mor gyflym â phosibl. Bydd yr holl ddeunyddiau'n cael eu tynnu o'r safle ac ni fydd dim yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Bydd llwybrau dargyfeirio ar gyfer y rhan fwyaf o gerbydau ar hyd New Road, Belmont Hill, Royal Oak Hill, Chepstow Road, Clarence Place, cylchfan Old Green a'r A4042 ond bydd cerbydau trwm yn defnyddio'r B4236, Ponthir, Llanfrechfa a'r A4042

Rhoddwyd gwybodaeth i'r rhai y bydd cau’r ffordd yn effeithio arnynt yn uniongyrchol a bydd rheolaeth draffig ac arwyddion yn hysbysu defnyddwyr eraill y ffordd.  Mae gwasanaethau brys a chwmnïau bysus hefyd wedi cael gwybod am gau’r ffordd a’r llwybrau dargyfeirio.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros wasanaethau’r ddinas: "Rydyn ni’n sylweddoli y bydd hyn yn achosi cryn anghyfleustra i breswylwyr a'r rhai sydd am deithio i Gaerllion, o’r dref honno a thrwyddi.

"Fodd bynnag, mae'n gwbl hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud mor gyflym a diogel â phosibl.  Mae'r coed hyn yn peri risg i iechyd a diogelwch pobl sy’n defnyddio'r ffordd gan y gallen nhw gwympo ar unrhyw adeg ac mae angen eu symud ar frys cyn gynted â phosibl.

"Amlygwyd problem bosibl gyda rhai coed eleni ond nododd arolwg pellach fod y clefyd wedi lledaenu ymhellach ac mae'r tywydd sych yn ystod yr haf wedi gwaethygu'r mater difrifol hwn.

"Cau'r ffordd yn gyfan gwbl yw'r dull gorau o ddiogelu holl ddefnyddwyr y ffordd. Heb hynny ni fyddai digon o le i wneud y gwaith yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl. Dyma’r ffordd orau i darfu cyn lleied â phosibl ar bobl.

"Mae hefyd yn golygu y gellir gwneud unrhyw waith cynnal a chadw arferol sydd ei angen ar yr un pryd ac osgoi rhagor o gau yn y dyfodol."

Mae marw ynn wedi heintio'r rhan fwyaf o'r coetir yn yr ardal ac mae'r coed yn marw'n gyflym. Clefyd a gludir yn yr awyr yw hwn, nad oes gwellhad ar ei gyfer, ac os na chaiff y coed eu cwympo cyn gynted â phosibl, byddant yn mynd yn frau ac yn disgyn ar y ffordd a'r llwybr troed heb rybudd. Mae hyn eisoes wedi digwydd gydag un neu ddau o'r coed. Mae angen mynd i'r afael â'r sefyllfa hon yn gyflym.

Byddant yn cael eu torri i lawr i lefel y ddaear ac, er y bydd coed newydd yn cael eu plannu, bydd cryn amser cyn i'r coetir edrych yr un fath ag y mae ar hyn o bryd.

I gael gwybod mwy am farw ynn, a sawl clefyd coed difrifol arall sy'n effeithio ar y DU, ewch i https://www.forestresearch.gov.uk/tools-and-resources/pest-and-disease-resources

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.