Newyddion

Adroddiad ar arolygu trefniadau amddiffyn plant

Wedi ei bostio ar Wednesday 2nd September 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi croesawu adroddiad ar wasanaethau amddiffyn plant yn y ddinas yn dilyn yr arolygiad amlasiantaethol cyntaf o'i fath.

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ac Estyn yr arolygiad manwl fis Rhagfyr diwethaf.

Gwerthusodd sut yr ymatebodd y Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Heddlu Gwent, a'r Gwasanaeth Prawf i gam-fanteisio ar blant.

Canfu'r arolygiad ar y cyd lawer o gryfderau yn yr holl wasanaethau a gwnaethpwyd argymhellion lle teimlwyd y gellid gwneud gwelliannau.

Dwedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor: "Mae gennym staff ymroddedig iawn yn gwneud gwaith hanfodol mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill i geisio cadw plant yn ddiogel rhag niwed corfforol, rhywiol neu emosiynol.

"Rwy'n falch bod yr arolygwyr wedi dod o hyd i gynifer o agweddau cadarnhaol ar y gwaith hwn yng Nghasnewydd ac yn ddiolchgar eu bod wedi tynnu sylw at feysydd lle gallwn wneud yn well. Byddwn yn ystyried yr argymhellion hynny oherwydd ein bod am sicrhau bod pob plentyn yn y ddinas yn cael ei amddiffyn ac yn cael y gofal priodol."

Fel rhan o'r arolygiad ar y cyd, ystyriodd y timau pa mor effeithiol yr oedd gwasanaethau'n ymateb i atgyfeiriadau. Yng Nghasnewydd, mae'r holl ymholiadau neu bryderon yn cael eu huwchgyfeirio drwy ganolfan ddiogelu'r Cyngor sy'n cynnwys cynrychiolwyr yr heddlu.

Canfu'r arolygwyr "weithwyr proffesiynol, ymroddedig a brwdfrydig iawn" ond roeddent o'r farn y byddai'r ganolfan yn elwa o gael cynrychiolwyr iechyd ac addysg.

Roedd y canfyddiadau eraill yn cynnwys:

  • Partneriaid yn cydweithio i chwalu gangiau troseddu cyfundrefnol a chynnig cymorth i blant pan fo angen
  • Adrannau'r Cyngor yn cydweithio'n effeithiol pan fyddant yn dod i gysylltiad â phobl sy'n agored i niwed
  • Gweledigaeth glir a chydweithredol i ysgolion sicrhau amgylchedd dysgu diogel a chyson i ddisgyblion sy'n agored i niwed
  • Gwaith i leihau nifer y plant y rhoddir dedfryd o garchar iddynt a oedd yn effeithiol gan nad oedd unrhyw blant yn y ddalfa ar adeg yr arolygiad
  • Enghreifftiau da o gyfathrebu ac ymyriadau amlasiantaethol sy'n arwain at fesurau ataliol lle nodwyd pryderon diogelu/cam-fanteisio.
  • Ystod eang o wasanaethau i gefnogi plant a bodloni anghenion unigol; gweithwyr proffesiynol yn dangos ymrwymiad a chymhelliant i wella canlyniadau i blant
  • Dywedodd y plant eu bod wedi ffurfio perthynas dda â gweithwyr proffesiynol sydd wedi bod yn gweithio gyda nhw ac roedd gan bobl ifanc berthynas gref ag unigolion allweddol yr oedd gwaith ymchwil wedi nodi eu bod yn bwysig

Canfu'r arolygwyr hefyd "frwdfrydedd ac ymrwymiad" ymhlith staff y gwasanaethau plant a "dyfalbarhad proffesiynol i feithrin perthnasoedd ac ymgysylltu â phlant a theuluoedd".

Sylwyd ar feddwl arloesol yn yr adran gwasanaethau plant. Soniodd yr arolygwyr am y strategaeth, gyda chefnogaeth yr aelodau, i wella darpariaeth breswyl y Cyngor ei hun gan ddweud fod rhai enghreifftiau da o sut yr oedd staff preswyl yn ymgysylltu ac yn rhyngweithio â phobl ifanc.

Yn ôl yr adroddiad hefyd mae swyddogion yn nhîm ymgysylltu a chynhwysiant y Cyngor yn gweithio'n agos iawn gydag arweinwyr ysgolion i roi "cymorth gwerth chweil" i staff. Roedd rheolwyr hefyd yn cynnig lefel uchel o her a chefnogaeth i arweinwyr ysgolion.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.