Newyddion

Mae achosion yng Nghasnewydd yn parhau i godi

Wedi ei bostio ar Monday 14th September 2020
Jane Mudd 2

Wrth i nifer yr achosion yng Nghasnewydd godi i dros 43 fesul 100,000 – y bedwaredd gyfradd uchaf yng Nghymru, anogir trigolion ac ymwelwyr â'r ddinas i weithredu nawr i atal lledaeniad pellach.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd, Jane Mudd:  "Rydym wedi gweld cynnydd pellach mewn achosion dros y penwythnos a nifer pryderus o achosion yn deillio o bobl nad ydynt yn glynu wrth y rheolau wrth gymdeithasu.

"Ein blaenoriaeth yw amddiffyn ein trigolion ac atal yr angen am gyfyngiadau pellach ar draws y ddinas – yr ydym wedi'u gweld yn ardaloedd awdurdodau cyfagos.

"Eto rwy'n annerch pob preswylydd Casnewydd a phob ymwelydd â'n dinas i weithredu nawr i leihau lledaeniad y feirws.

"Mae angen i bob un ohonom gyfyngu ein cyswllt â phobl; dilyn y cyfreithiau ynghylch pwy y cawn gwrdd â nhw y tu mewn a’r tu allan; golchi ein dwylo'n rheolaidd; cadw ein pellter oddi wrth eraill; a gwisgo masg wyneb lle mae angen.

"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda busnesau a sefydliadau i sicrhau eu bod yn gweithredu mewn modd Covid-diogel a chyda'n cydweithwyr yn yr heddlu, rydym mas yn y ddinas yn cefnogi ac yn gorfodi lle bo angen.

"Ond rwy'n gofyn, pan fyddwch chi'n mynd allan - i siop, bwyty, ar fws neu i'r ysgol, neu os byddwch yn gwahodd pobl i'ch cartref, i gymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd. Cofiwch amddiffyn eich hunain, eich ffrindiau, eich teulu a phawb rydych chi'n dod i gysylltiad â nhw."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.