Newyddion

Gwaith i ddechrau yn isffordd Devon Place

Wedi ei bostio ar Tuesday 20th October 2020

Cyn bo hir, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn dechrau rhaglen waith yn yr isffordd i gerddwyr yn Devon Place.

Bydd y gwaith yn cynnwys cyfres o arolygon strwythurol a gwaith ymchwilio tir sy'n digwydd dros gyfnod o chwe mis. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen cau'r isffordd o bryd i'w gilydd er mwyn i'r gwaith gael ei wneud yn ddiogel.

Rhagwelir mai dim ond am gyfnodau byr yn ystod y cyfnod hwn y bydd yr isffordd ar gau, ac ni ddisgwylir i unrhyw gyfnod cau bara mwy nag ychydig ddyddiau.  Caiff dyddiadau cau eu cyhoeddi ymlaen llaw, a bydd preswylwyr yn gallu cael mynediad i'r isffordd ar adegau yn ystod y cyfnod o chwe mis pan nad oes gwaith yn cael ei wneud.

Bydd llwybr dargyfeirio ar waith ar gyfer cerddwyr ar hyd Devon Place, Godfrey Road, Cyltha Park Road a Queensway pan fydd yr isffordd ar gau.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.