LlC yn cyhoeddi cyfnod atal coronafeirws byr cenedlaethol
Wedi ei bostio ar Tuesday 20th October 2020
Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi y bydd “cyfnod atal” byr, llym yn cael ei gyflwyno ledled Cymru ddiwedd yr wythnos hon i helpu i adennill rheolaeth dros y coronafeirws.
Bydd y cyfnod atal byr yn dechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref ac yn gorffen ddydd Llun 9 Tachwedd. Bydd yn berthnasol i bawb sy'n byw yng Nghymru a bydd yn disodli'r cyfyngiadau lleol sydd mewn grym yng Nghasnewydd ar hyn o bryd.
Yn ei gynhadledd i'r wasg, manylodd y Prif Weinidog ar ddychwelyd at ddull 'aros gartref' a dywedodd fod angen cymryd y camau am bythefnos i achub bywydau ac atal y GIG rhag cael ei llethu.
Mae prif nodweddion y cyfnod atal byr yn cynnwys:
- Rhaid i bobl aros gartref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn, megis ar gyfer ymarfer corff.
- Rhaid i bobl weithio gartref pan fo hynny’n bosibl;
- Rhaid i bobl beidio ag ymweld â chartrefi eraill na chwrdd â phobl eraill nad ydynt yn byw gyda hwy naill ai dan do neu yn yr awyr agored
- Ni chaniateir unrhyw gynulliadau yn yr awyr agored, fel Calan Gaeaf neu dân gwyllt/noson tân gwyllt neu weithgareddau trefnedig eraill
- Rhaid cau pob busnes manwerthu, lletygarwch, gan gynnwys caffis, bwytai a thafarndai nad ydynt yn fanwerthwyr bwyd (oni bai eu bod yn darparu gwasanaethau cludfwyd neu ddosbarthu), gwasanaethau cyswllt agos, fel trinwyr gwallt a harddwch, a digwyddiadau a busnesau twristiaeth, megis gwestai
- Bydd yn ofynnol i ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu gau
- Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, sy'n parhau ar agor, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis.
Yn ystod y cyfnod hwn:
- Bydd oedolion sy'n byw ar eu pen eu hunain neu rieni sengl yn gallu ymuno ag un cartref arall i gael cymorth
- Bydd ysgolion cynradd ac arbennig yn ailagor fel arfer ar ôl hanner tymor
- Bydd ysgolion uwchradd yn ailagor ar ôl yr hanner tymor i blant ym mlynyddoedd saith ac wyth a'r plant mwyaf agored i niwed. Bydd disgyblion yn gallu dod i mewn i sefyll arholiadau ond bydd disgyblion eraill yn parhau i ddysgu o gartref am wythnos ychwanegol.
- Bydd prifysgolion yn darparu cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein
- Bydd y GIG a'r gwasanaethau iechyd yn parhau i weithredu
- Bydd parciau lleol, meysydd chwarae a champfeydd awyr agored yn aros ar agor.
- Ar ôl diwedd y cyfnod atal byr, cyflwynir set newydd o reolau cenedlaethol, yn cwmpasu sut y gall pobl gyfarfod a sut mae'r sector cyhoeddus a busnesau'n gweithredu.
Mae'r cyhoeddiad llawn a’r cwestiynau cyffredin ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cyfeiriodd Llywodraeth Cymru hefyd at becyn o bron i £300 miliwn i gefnogi busnesau, a fydd yn ategu cynlluniau cymorth cyflog sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Rydym wedi bod yn trafod yn agos gyda Llywodraeth Cymru dros y dyddiau diwethaf gan eu bod wedi ystyried opsiynau ar gyfer Cymru gyfan.
"Mae mesurau lleol wedi cael effaith gadarnhaol yng Nghasnewydd ac unwaith eto diolchaf i bawb am yr ymdrech sylweddol y maent wedi mynd ati i gadw at y rheolau a helpu i atal lledaeniad yn lleol.
"Nawr mae angen i ni dynnu ynghyd at y lefel nesaf honno er mwyn adennill rheolaeth dros y feirws, diogelu ein GIG ac osgoi cloi cenedlaethol llawer hwy."
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau yr effeithir arnynt yng Nghasnewydd ar gael yn www.newport.gov.uk/coronavirus