Newyddion

Adroddiad i nodi ffigurau cadarnhaol ar gyfer ailgylchu ac ysgolion yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 15th October 2020

Mae cynnydd mewn cyfraddau ailgylchu a gwelliannau mewn ysgolion cynradd ymhlith y prif benawdau yn adroddiad blynyddol arfaethedig Cyngor Dinas Casnewydd.

Mae'r adroddiad yn manylu ar gynnydd yn erbyn cynllun corfforaethol y cyngor, 'Gwella Bywydau Pobl', sy'n rhedeg o 2017-2022.

Mae cyfraddau ailgylchu yn y ddinas wedi cynyddu i 64.4%, o ganlyniad i gyflwyno biniau gwastraff cartref llai.

Yn y cyfamser bu cynnydd o 11.6% yn nifer yr ysgolion cynradd a gategoreiddiwyd fel gwyrdd gan Lywodraeth Cymru, o 62.8% i 74.4%.

Mae cyflawniadau nodedig eraill a nodir yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • datblygiad Addewid Casnewydd.

  • ailddatblygu canolfan gymunedol Ringland i ganolfan gymdogaeth Ringland, gan ddod â mwy o wasanaethau allweddol at ei gilydd o dan un to

  • gweithredu gorfodaeth parcio sifil yn llwyddiannus

  • lansio addewid y cyngor i fod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030, gan gynnwys cyflawni prosiectau bioamrywiaeth a gwyrdd amrywiol i wella amgylchedd y ddinas.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at nifer o feysydd i'w gwella, ac yn nodi ymateb y cyngor i'r pandemig Covid-19, a ddechreuodd effeithio ar y ddinas ym mis Chwefror.

Cyflwynwyd yr adroddiad llawn i gyfarfod cabinet y cyngor ddydd Mercher 14 Hydref, a chaiff ei gyhoeddi ar wefan y cyngor yn ddiweddarach yn y mis.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.