Newyddion

Cofiwch, cofiwch…… arhoswch gartref, cadwch yn ddiogel ac ufuddhewch i'r gyfraith ar noson tân gwyllt eleni

Wedi ei bostio ar Wednesday 28th October 2020
Fireworks

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn atgoffa pobl bod ymgynnull yn yr awyr agored wedi’i wahardd o dan reolau cyfnod atal presennol Llywodraeth Cymru sydd mewn grym tan 9 Tachwedd.

Os ydych yn bwriadu cynnau tân gwyllt yn eich gardd, cofiwch na all unrhyw un y tu allan i'ch aelwyd ymweld â chi – ddim hyd yn oed yn yr ardd.

Mae angen i bobl feddwl yn ofalus a pheidio ag ymgasglu gyda ffrindiau neu deulu estynedig yn ystod y cyfnod atal hwn. Mae'r cyfyngiadau ar waith i helpu i gadw'r feirws dan reolaeth ac i gadw pobl yn ddiogel - mae'n hanfodol ein bod i gyd yn dilyn y rheolau.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau’r Ddinas: “Mae’n bwysig cofio hefyd na chaniateir coelcerthi ar dir y cyngor a chânt eu hystyried yn dipio anghyfreithlon.  Mae gan aelwydydd gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod unrhyw sbwriel yn cael ei waredu'n gywir. 

"Os caiff eich sbwriel ei symud a'i dipio'n anghyfreithlon yn y pen draw, gallech gael eich dal yn gyfrifol a’ch dirwyo. Cadwch unrhyw wastraff yn ddiogel nes y bydd y CAGC yn ailagor neu archebwch unrhyw gasgliad gwastraff swmpus ar-lein."

 I archebu casgliad gwastraff swmpus ewch i www.newport.gov.uk/recycling.

Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynghori unrhyw un i losgi gwastraff gardd neu wastraff cartref ac i feddwl am eu cymdogion a'r rheiny a allai hefyd fod yn hunanynysu â symptomau Covid-19.

Am gyngor a chyfarwyddyd pellach ar ddiogelwch ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru