Newyddion

Cydnabod rhinweddau gwyrdd parciau Casnewydd gyda gwobr genedlaethol

Wedi ei bostio ar Wednesday 14th October 2020

Mae dau barc yng Nghasnewydd wedi cael eu cydnabod am eu rhinweddau amgylcheddol gyda gwobr genedlaethol.

Mae Parc Beechwood a Pharc Belle Vue ill dau wedi ennill statws Baner Werdd ar gyfer 2020/21 gan Cadwch Gymru'n Daclus.

Mae trydydd safle a reolir gan y Cyngor, sef Amlosgfa Gwent, hefyd wedi cael cydnabyddiaeth Baner Werdd.

Mae Gwobrau'r Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau agored sydd ar gael i'r cyhoedd am eu cyfleusterau ymwelwyr rhagorol, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd uchel.

Dyma'r bedwaredd flwyddyn ar ddeg yn olynol i Belle Vue gael statws Baner Werdd, a dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynol i Amlosgfa Gwent a'r drydedd flwyddyn yn olynol i Beechwood.

Mae Parc Belle Vue hefyd wedi cadw ei statws Treftadaeth Werdd am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Dywedodd y Cynghorydd Deb Harvey, yr aelod cabinet dros ddiwylliant a hamdden, "Mae'n newyddion gwych bod Beechwood a Belle Vue, parciau yng nghanol ein dinas, wedi cadw eu statws Baner Werdd.

"Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod y gwaith caled y mae ein swyddogion a'n grwpiau Cyfeillion sy'n gweithio'n galed yn ei wneud i ofalu am ein hasedau naturiol, sy'n elfen allweddol o'n haddewid i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol."

Ychwanegodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y Cyngor, "Rwy'n falch iawn o weld Amlosgfa Gwent yn cael ei chydnabod gyda Gwobr Baner Werdd.

"Mae'r wobr hon, ynghyd â'r rhai ar gyfer Beechwood a Belle Vue, yn pwysleisio’r ymrwymiad sydd gennym fel Cyngor i wneud ein mannau mynediad cyhoeddus mor ystyriol o’r amgylchedd â phosibl."

Mae 224 o barciau a mannau gwyrdd ledled y wlad wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd fawreddog – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetiroedd a mynwentydd.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff y safleoedd sy’n ymgeisio am y wobr eu dyfarnu gan arbenigwyr mannau gwyrdd gwirfoddol ar ddechrau’r hydref, sy’n eu hasesu yn erbyn wyth maes prawf cadarn, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol a chynnwys y gymuned.

More Information