Newyddion

Gofynnir i drigolion nodi'r Cofio gartref

Wedi ei bostio ar Wednesday 4th November 2020
Remembrance garden image

Mae Dydd y Cofio yn rhan hynod arwyddocaol o galendr dinesig Casnewydd ac mae'n anffodus na all ein digwyddiadau arferol i nodi’r Cofio, gan gynnwys gorymdaith canol y ddinas, ddigwydd eleni.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Rwy'n annog pawb i ystyried negeseuon y Cofio, talu teyrnged i'r rhai a ymladdodd a'r rhai a gollwyd, ond hefyd i uno i ddiogelu ein cymunedau nawr.

"Byddwn yn cofio fel y gwnawn bob amser, ond ein tro ni yw cefnogi ein Lluoedd Arfog drwy helpu i'w diogelu ar hyn o bryd yn y pandemig.

"Bydd pob un yn cael cyfle i dalu ei deyrngedau ond mae'n iawn ac yn briodol ein bod eleni'n gwneud hynny mewn ffordd wahanol.

"Diogelwch ein cyn-filwyr a'n trigolion yw ein prif flaenoriaeth a byddem yn gofyn i bobl fyfyrio gartref. Gadewch i ni eu cofio."

Bydd y Cynghorydd Mudd a Maer Casnewydd, y Cynghorydd Tom Suller, yn cymryd rhan mewn digwyddiad cofio bach gyda nifer fach o gynrychiolwyr o'r lluoedd arfog lle byddant yn gosod torch ar ran y cyngor a phobl Casnewydd.

More Information