Newyddion

Adroddiad yn dangos cynnydd gan y cyngor o ran gwasanaethau cwsmeriaid

Wedi ei bostio ar Friday 13th November 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyhoeddi ei adroddiad Canmoliaethau, Sylwadau a Chwynion blynyddol ar gyfer 2019/20.

Mae'r adroddiad yn archwilio'r adborth cadarnhaol a negyddol rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020 a gaiff y Cyngor gan breswylwyr ar draws yr ystod o wasanaethau a ddarparwn.

Mae gwelliannau a wnaed i’r llwyfan 'Fy Nghasnewydd' ar ddiwedd 2018 wedi ei gwneud yn haws i breswylwyr gyflwyno adborth i'r Cyngor, ac mae hyn wedi arwain at gofnodi niferoedd cynyddol ar draws y tri chategori yn yr adroddiad.

Cyfrannodd gweithredu newidiadau mawr i'r gwasanaethau a ddarperir mewn meysydd proffil uchel fel gorfodi parcio sifil a chasglu gwastraff hefyd at fwy o adborth yn ystod y flwyddyn.

Er gwaethaf y cynnydd yn nifer y sylwadau a'r cwynion a dderbyniwyd, mae'r cyngor wedi gweld gostyngiad o wyth y cant yn nifer y cwynion sy'n symud ymlaen o gam un i gam dau, a gostyngiad o un ar ddeg y cant yn nifer y cwynion sy'n cael eu cyfeirio at ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Cadarnhawyd tua chwarter yr holl gwynion yr ymchwiliwyd iddynt yn rhannol neu'n llawn, lefel sy'n parhau i fod yn eithaf tebyg i flynyddoedd blaenorol.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r Cyngor hefyd wedi diwygio ein model cwynion, gan weithio'n agos gyda'r awdurdod safonau cwynion. Rhan o swyddfa'r ombwdsmon, maent wedi cyfeirio ein model at awdurdodau lleol eraill fel enghraifft o arfer gorau.

Mae'r cyngor wedi gweithio i weithredu nifer o newidiadau yn dilyn adborth gan breswylwyr. Mae hyn yn cynnwys diwygio ein llwyfan hunanwasanaeth i'n helpu i brosesu ceisiadau am gynwysyddion biniau ac ailgylchu yn gyflymach, ac ymgynghori â phreswylwyr am eu barn ar sut rydym yn gwneud penderfyniadau ynghylch trwyddedau parcio yn dilyn adborth yn gofyn am fwy o gysondeb.

Dywedodd y Cynghorydd David Mayer, yr aelod cabinet dros gymunedau ac adnoddau, "Er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaethau cyhoeddus gorau posibl i'n dinas, mae adborth preswylwyr yn hollbwysig. Mae'r gwelliannau a wnaed i system Fy Nghasnewydd wedi ei gwneud yn llawer haws rhoi adborth i ni.

"Mae'n braf gweld canlyniadau technoleg a ddefnyddir i gefnogi preswylwyr. Mae'n rhoi adborth ystyrlon ac amserol i'r Cyngor. Mae'r gwersi a ddysgwyd yn helpu'r Cyngor i wella'r ffordd y mae'n darparu gwasanaethau. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar hyn dros y 12 mis nesaf. Mae perfformiad y Cyngor yn gryf o'i gymharu â gweddill Cymru, ac rwyf yn falch ein bod yn parhau i wella diolch i'n hymgysylltiad cadarnhaol â swyddfa'r ombwdsmon. 

Rwyf yn falch bod y rhai sy'n symud y tu hwnt i gam un wedi gostwng er gwaetha’r cynnydd yn y nifer cyffredinol. Mae ein swyddogion yn gweithio'n galed i ddatrys problemau cyn gynted â phosibl ac rydym yn parhau i ddysgu o'r adborth ac yn parhau i wella ein gwasanaethau.”

"Roeddem yn disgwyl cynnydd yn y sylwadau oherwydd y newidiadau proffil uchel a wnaethom i ddarpariaeth gwasanaethau y llynedd. Fodd bynnag, rydym yn falch bod lefel y cwynion wedi gostwng er gwaethaf newidiadau mawr megis cyflwyno biniau gwastraff llai a fydd yn gweld cynnydd yn y cyfraddau ailgylchu sydd eisoes wedi'u cofnodi ledled y ddinas.”

Gellir cael mynediad at yr adroddiad llawn yma.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.