Newyddion

Parciwch yn ddiogel, parciwch yn iawn, parciwch yn gyfreithlon

Wedi ei bostio ar Monday 1st June 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn annog gyrwyr i barcio'n ddiogel ac yn gyfreithlon wrth i Gymru symud i gam adfer Covid-19.

Nodwyd nad yw nifer o gerbydau yn parcio yn unol â'r rheoliadau a'u bod yn peri risg i bobl eraill sy'n defnyddio'r ffordd.

Wrth i fwy o fusnesau ddechrau ailagor, mae'n bwysicach fyth nad yw perchnogion cerbydau yn achosi perygl i gerddwyr a beicwyr, sy'n ceisio dilyn mesurau ymbellhau cymdeithasol, yn ogystal â gyrwyr eraill.

Mae'r Cyngor yn awyddus i atgoffa gyrwyr nad yw'r gyfraith wedi newid a bydd ein wardeiniaid yn rhoi tocyn i unrhyw un y deuir ar ei draws sy'n mynd yn groes i'r rheolau.

Byddem yn gofyn i bobl wneud y canlynol:

  • Parcio'n ddiogel - ystyriwch ddefnyddwyr eraill y ffordd pan fyddwch yn parcio, hyd yn oed am gyfnodau byr
  • Parciwch yn iawn - er mwyn osgoi camau gorfodi a chael dirwy
  • Parciwch yn gyfreithlon - mae ein swyddogion gorfodi yn patrolio'r ddinas a byddant yn rhoi tocyn i'r rheiny sy'n mynd yn groes i'r rheolau.

Helpwch ni i gadw'r ddinas yn ddiogel i bawb. I gael rhagor o wybodaeth am orfodi parcio sifil ewch i http://www.newport.gov.uk/en/Transport-Streets/Parking/Civil-Parking-Enforcement.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.