Newyddion

Elusen yn dod â phartneriaid ynghyd yn y gymuned i helpu teuluoedd bregus yn ystod argyfwng y coronafirws

Wedi ei bostio ar Friday 29th May 2020
Covid-19 early years communities programme

Mae'r argyfwng coronafirws yn effeithio'n fawr ar blant ar draws Cymru, ond i rai fe all olygu eu bod yn cymryd cam yn ôl o ran eu twf a'u datblygiad. 

Teuluoedd incwm isel a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi sy'n cael eu heffeithio fwyaf ac nid oes gan nifer yr adnoddau na'r sgiliau angenrheidiol i allu cefnogi datblygiad a dysg eu plant gartref. 

Fel rhan o ymateb Achub y Plant i'r argyfwng coronafirws mae'r elusen wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid o fewn cymunedau ar draws y DU i geisio helpu teuluoedd bregus.

Mae prosiect Cymuned Addysg Gymmar Achub y Plant ym Metws, Casnewydd - un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru - yn anelu i adeiladu ar y sail tystiolaeth a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli gan wasanaethau lleol a sefydliadau yn yr ardal. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r elusen wedi bod yn gweithio yn agos gydag ysgolion cynradd lleol, y Cyngor lleol, llywodraeth Cymru, gweithwyr iechyd, grwpiau troseddwyr ifanc ac asiantaethau tai yng Nghasnewydd i wella darpariaeth i blant oedran y blynyddoedd cynnar yn yr ardal.

Dros gyfnod y pandemig mae'r prosiect Cymuned Addysg Gynnar wedi bod yn helpu i ddarparu anghenion ar gyfer teuluoedd ym Metws sy'n cynnwys pecynnau bwyd, adnoddau ar gyfer hwyluso addysg gynnar fel teganau a llyfrau, pecynnau glanweithdra a glanhau, bwndeli ar gyfer babanod a darpariaeth ar gyfer cael mynediad at adnoddau digidol a'r we. 

Mae'r eitemau wedi eu hariannu gan Sefydliad Moondance ac mae'r gwaith o'u casglu a'u dosbarthu i deuluoedd wedi ei ddarparu gan Gyngor Dinas Casnewydd, staff Ysgol Gynradd Monnow, Ysgol Gynradd Millbrook, Ysgol Gynradd Ifor Hael, Dreigiau Casnewydd, Banc Bwyd Bettws ac asiantaethau tai Pobl a Chartrefi Casnewydd. Mae rhoddion hefyd wedi eu cyfrannu gan Book Trust, Designed to Smile, The Church of Jesus Christ and of the Latter-Day Saints a Care4humanity. Mae Achub y Plant hefyd yn ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu cefnogaeth barhaus o waith yr elusen o fewn cymunedau yng Nghymru.

Meddai Bethan Parry-Jones, Pennaeth Ysgol Gynradd Ifor Hael, un o'r ysgolion sy'n rhan  o'r prosiect Cymuned Addysg Gynnar: "Mae yna ymdeimlad cryf o gymuned ym Metws ac mae lefel yr ymroddiad a'r gwaith ddi-flino gan bawb sydd wedi bod ynghlwm gyda'r prosiect yma er mwyn helpu eraill wedi bod yn anhygoel.  Mae'r pecynnau cymorth yma yn gwneud gwahaniaeth mawr i nifer o'n teuluoedd ac yn hwyluso ychydig arnynt yn ystod y cyfnod anodd yma."

Ychwanegodd y Cynghorydd David Mayer, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yng ngofal y gymuned ac adnoddau: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r rhaglen arloesol Cymuned Addysg Gynnar sy'n dod ynghyd amrediad o sefydliadau sy'n canolbwyntio ar wella bywydau plant.

"Mae gweithio mewn partneriaeth wedi sicrhau ein bod yn gallu gweithio gyda'n gilydd i ddosbarthu hanfodion ar gyfer teuluoedd yn ystod y cyfnod yma. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith allweddol yma."

Mae Achub y Plant hefyd yn ymateb drwy gynnig Grantiau Argyfwng i deuluoedd ar draws y DU a fydd yn eu galluogi i gael eitemau hanfodol ar gyfer y tŷ fel crud ar gyfer y babi, cadeiriau uchel, bwrdd, teganau addysgiadol a llyfrau, cymorth i dalu biliau a thalebau bwyd. Mae'r elusen hefyd wedi creu pecynnau adnoddau sy'n llawn o wybodaeth, gweithgareddau i'r teulu oll a chyngor i rieni ar sut i siarad gyda'u plant am y firws.

Meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru: "Mae'r blynyddoedd cynnar yn amser allweddol ym mywyd plentyn. Cyn yr argyfwng roedd yna fwlch cyrhaeddiad rhwng rhai plant oedd yn profi effeithiau tlodi a'u cyfoedion. Heb unrhyw ymyrraeth glir rydym yn rhagweld y bydd y bwlch yma yn cynyddu o ganlyniad i'r pandemig gan fygwth cyfleon bywyd i genhedlaeth o blant. Mae'n rhaid i ni sicrhau fod gan y plant, eu rhieni a'r gwasanaethau i'r blynyddoedd cynnar y gefnogaeth maen nhw ei angen drwy gydol y cyfnod yma ac yn ystod y misoedd o adfer sydd i ddilyn.

"Boed yn llywodraeth genedlaethol, awdurdod lleol, grwpiau cymunedol neu elusennau  - fe allwn ni i gyd wneud ein rhan i helpu'r teuluoedd mwyaf bregus yn ystod y cyfnod argyfyngus yma."

Am fwy o wybodaeth am yr hyn y mae Achub y Plant yn ei wneud i helpu teuluoedd yn y DU sydd yn cael eu heffeithio gan argyfwng y coronafirws ewch i www.savethechildren.org.uk

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.