Newyddion

Erlyniad llwyddiannus am dai amlfeddiannaeth didrwydded

Wedi ei bostio ar Friday 13th March 2020

Cafodd landlord a rheolwr tŷ amlfeddiannaeth yng Nghasnewydd ddirwy o £40,000 gan ynadon y ddinas.

Mae'n dilyn erlyniad llwyddiannus arall gan Gyngor Dinas Casnewydd yn gynharach eleni pan ddirwywyd cwmni rheoli eiddo a'i Gyfarwyddwr fwy na £14,000.

Mewn achos a glywyd ddechrau mis Mawrth, cafwyd Jamshed Rana, 75 oed, perchennog a landlord dau eiddo yn Augustus Place, yn euog yn ei absenoldeb o weithredu dau dŷ amlfeddiannaeth didrwydded a nifer o achosion o dorri rheoliadau diogelwch.

Cafodd Mr Rana ddirwy o £20,000 a'i orchymyn i dalu costau o £460 ynghyd â gordal dioddefwr o £170.

Fe gafwyd Omar Rana, 34 oed, o Kimberley Close, Luton, rheolwr y ddau eiddo, yn euog yn ei absenoldeb hefyd. Cafodd ef ddirwy o £20,000 a'i orchymyn i dalu costau o £460 ynghyd â gordal dioddefwr o £170.

Roedd y taliadau'n cynnwys achosion difrifol o dorri rheoliadau diogelwch tân, darparu ystafelloedd oedd yn rhy fach i fyw ynddynt a gadael gwifrau'n agored i wresogydd dŵr poeth.

Mewn gwrandawiad ar wahân ar ddiwedd mis Ionawr plediodd ADO Options a'r cyfarwyddwr Aniela Orlicka yn euog i 27 trosedd yn llys ynadon y ddinas.

Yn ogystal â bod heb drwyddedau ar gyfer eiddo yn York Place, Malpas Road, Castle Street a Clyffard Crescent, bu achosion difrifol hefyd o dorri rheoliadau diogelwch tân mewn rhai ohonynt.

Cafodd Orlicka, 38 oed, o Creswicke Road, Bryste, a'r cwmni cyfyngedig, ddirwy o £14,550 a'u gorchymyn i dalu costau o £4,505 ynghyd â gordal dioddefwr o £84.

Michael Davis, 50 oed, o Brook Bank Close, Cheltenham oedd yn berchen ar yr eiddo yn York Place, Malpas Road a Castle Street. Cafodd ef ddirwy o £6,210, a'i orchymyn i dalu costau o £2,799 a gordal dioddefwr o £30.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Drwyddedu a Rheoleiddio: "Mae rhedeg eiddo heb y rhagofalon tân angenrheidiol yn peryglu bywydau pobl. Nod y rheoliadau mewn perthynas â thai amlfeddiannaeth yw diogelu ac amddiffyn tenantiaid, felly rydym yn cymryd unrhyw achosion o dorri'r rheolau o ddifrif. Mae'n rhaid i landlordiaid a pherchnogion eiddo fodloni eu rhwymedigaethau o dan y gyfraith neu byddwn ni'n cymryd camau gweithredu cryf yn ddi-oed, fel mae'r achos hwn yn ei ddangos."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.