Newyddion

Dweud eich dweud ar welliannau i Barc Black Ash a Monkey Island

Wedi ei bostio ar Thursday 5th March 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu gwneud gwelliannau i Monkey Island a Pharc Black Ash.

Rydym am eu gwneud yn hygyrch i bobl leol ac mae angen ei syniadau ar sut y gellid gwella’r ardaloedd hyn.

Ymunwch â ni yn ein digwyddiad ymgynghori i roi’ch barn a lunio dyfodol eich ardal:

 

10am - 2pm

Dydd Mercher 11 Mawrth

Sefydliad Lysaght,

Orb Drive, Oddi ar Corporation Road

Casnewydd

NP19 0RA

Mae'r rhan hon o waith y cyngor i wella llwybrau beicio a cherdded ar draws y ddinas ac annog teithio llesol.

Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw sicrhau mai cerdded a beicio yw'r dewis mwyaf deniadol ar gyfer teithiau byrrach, gan gysylltu lle mae pobl yn byw i le maent am fynd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am deithio llesol yng Nghasnewydd www.newport.gov.uk/en/Transport-Streets/Active-travel.aspx

Cynigir nifer o welliannau ym Mharc Black Ash a Monkey Island yn ward Llyswyry.

Maent yn cynnig cynnwys ramp newydd a fydd yn cysylltu troedffordd ogleddol yr A48, man agored Monkey Island a'r ystâd dai newydd i'r de. Byddai hefyd yn rhoi mynediad uniongyrchol i'r ardal bywyd gwyllt.

Ym Mharc Black Ash, mae'r cynigion yn cynnwys rhan newydd o lwybr cerddwyr/beiciau a mynedfeydd newydd o ddatblygiadau tai cyfagos.

Byddai'r cynlluniau’n cefnogi teithio cynaliadwy yn yr ardal ac yn gwella mynediad i'r ystod estynedig arfaethedig o amwynderau, ar gyfer preswylwyr presennol, darpar breswylwyr ac ymwelwyr.

Cynhelir ymgynghoriad ar-lein hefyd o ddydd Mercher 11 Mawrth – ewch i www.newport.gov.uk/haveyoursay i rannu eich barn.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.