Newyddion

Forty Years On yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 13th March 2020
Art college Jpeg

Bydd gwaith gan gyn-fyfyrwyr a staff o Goleg Celf Casnewydd, sy'n enwog yn rhyngwladol, yn cael ei ddangos mewn arddangosfa arbennig a fydd yn agor yn ddiweddarach y mis hwn.

Dyma'r tro cyntaf mewn 40 mlynedd i'r 37 o arddangoswyr ddod ynghyd gydag arddangosfa gelf ddiddorol sy'n cynnwys animeiddio a cherfluniau.

Gellir gweld Forty Years On, sydd wedi'i churadu gan Neil Carroll, o 31 Mawrth tan 4 Gorffennaf.

Ym 1980, graddiodd y rhan fwyaf o'r cyn-fyfyrwyr sy'n cyfrannu ac mae pob un wedi cyflwyno darn o waith sy'n cynrychioli eu bywydau eu hunain.

Yn eu plith mae Graham Bebbington a adawodd y coleg i weithio yn Siriol ar y gyfres animeiddiedig boblogaidd Super Ted ac ers hynny mae wedi bod yn artist effeithiau arbennig ar lawer o ffilmiau adnabyddus.

Mae eraill yn cynnwys cerddor Bari Goddard, unawdydd sydd wedi teithio o amgylch y byd ac sydd bellach yn ffotograffydd ac yn wneuthurwr ffilmiau llwyddiannus, a'r ffotograffydd teithiau arobryn Cathy Cooper.

Ymhlith y cyn-diwtoriaid a oedd yn ymwneud â'r arddangosfa mae Gillian Clarke, sef Bardd Cenedlaethol Cymru o 2008 i 2016, y cerflunydd byd-enwog David Petersen a ffotograffydd Magnum, David Hurn.

Bydd yr arddangosfa'n cynnwys teyrnged arbennig i'r arlunydd Terry Ilott a fu farw ym mis Mawrth y llynedd. Creodd ef glawr albwm Mike Oldfield Crisis ac mae ei waith wedi'i gynnwys mewn rhai casgliadau nodedig.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Hamdden a Diwylliant: "Roedd gan Goleg Celf Casnewydd enw ardderchog yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae hyn yn gyfle gwych i weld gwaith cyn-fyfyrwyr a chyn-diwtoriaid sydd wedi cyflawni cymaint yn eu gyrfaoedd."

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.