Gwasanaeth codi baner y Gymanwlad yn y Ganolfan Ddinesig
Wedi ei bostio ar Thursday 5th March 2020
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn nodi Gŵyl y Gymanwlad gyda gwasanaeth codi'r faner ar ddydd Llun 9 Mawrth.
Bydd y seremoni, dan arweiniad y Parchedig Keith Beardmore, yn cael ei chynnal am 10am tu allan i'r Ganolfan Ddinesig.
Yn ystod y gwasanaeth bydd Maer Casnewydd, y Cynghorydd Malcolm Linton, yn darllen neges bersonol gan Ysgrifennydd Cyffredinol Gwledydd y Gymanwlad, y Gwir Anrhydeddus Patricia Scotland, CF.
Bydd y Brigadydd Robert Aitken CBE, Arglwydd Raglaw Gwent, yn darllen Datganiad y Gymanwlad cyn codi baner y Gymanwlad. Caiff hyn ei ailadrodd mewn gwledydd ledled y byd wrth i'r aelod-wladwriaethau ailddatgan eu hymrwymiad i ddemocratiaeth, datblygiad a pharch at amrywiaeth.
Y thema eleni yw cyflawni dyfodol cyffredin: Cysylltu. Arloesi. Trawsnewid.
Gyda'i gilydd, bydd pobl y Gymanwlad yn ceisio mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a dod o hyd i atebion cynaliadwy; gweithio i feithrin heddwch a chytgord drwy ddatblygu cymdeithasol a democrataidd; ac i annog grymuso economaidd a masnach deg, fel bod pawb yn gallu rhannu ffrwyth llafur cynnydd a ffyniant