Is-etholiad i'w gynnal yn ward Victoria
Wedi ei bostio ar Wednesday 11th March 2020
Mae’r Cynghorydd Christine Jenkins, aelod Cyngor Dinas Casnewydd dros ward Victoria, wedi ymddiswyddo o’i rôl am resymau iechyd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jane Mudd: “Ar ran y cyngor a’r holl aelodau, hoffwn ddiolch i Christine am ei gwaith caled, ei hymrwymiad a’i hymroddiad i’w ward a’r ddinas gyfan. Hoffem ddymuno pob hwyl iddi’n y dyfodol.”
O ganlyniad, cyhoeddwyd hysbysiad sedd wag. Mae dau etholwr yn ardal cyngor y ddinas wedi gwneud cais i alw etholiad. Felly, caiff is-etholiad ei alw gyda chyfnod y tymor yn dod i ben ym Mai 2022.
Caiff manylion pellach a’r hysbysiad o is-etholiad eu cyhoeddi yn www.newport.gov.uk/elections