Newyddion

Diolch i wirfoddolwyr

Wedi ei bostio ar Monday 1st June 2020

Hoffai Cyngor Dinas Casnewydd ddiolch i bawb sy'n rhoi o'u hamser eu hunain i helpu eraill wrth i ni nodi Wythnos Gwirfoddoli 2020 (1-7 Mehefin).

Dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jane Mudd:  "Dwi'n gwybod pa mor bwysig yw gwirfoddolwyr mewn cymaint o sectorau yn ein dinas. Maent yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau llawer o bobl ifanc iawn i aelodau hŷn ein cymunedau.

"Mae hynny'n wir mewn amseroedd 'arferol' ond yn ystod y dyddiau eithriadol hyn, maent wedi bod yn hanfodol i'r cymorth sydd ei angen ar breswylwyr, yn enwedig y rhai mwy agored i niwed.

"Bydd rhai yn bobl sydd wedi bod yn gwirfoddoli ers peth amser tra bydd eraill wedi gwneud mwy na'r gofyn yn ystod yr argyfwng hwn - megis gwneud siopa; rhoi cymorth hanfodol i'n gweithwyr brys wrth iddynt ymdopi â'r galw arnyn nhw a'u gwasanaethau neu gyfeillio â rhywun dros y ffôn.

"Hoffwn ddiolch iddynt oll, a Volunteering Matters, y sefydliad sydd wedi cydlynu ymateb gwirfoddolwyr yng Nghymru. Nid yw'ch ymdrechion yn ddisylw ac fe'u gwerthfawrogir yn fawr gennym ni i gyd, nid dim ond y rhai rydych wedi'u helpu."

Mae'r rhai sydd wedi cael cymorth drwy Volunteering Matters wedi siarad am beth mae hyn wedi'i olygu iddynt.

"Dwi mor ddiolchgar am eich holl help. Dw i ddim yn gwybod beth y byddwn i wedi'i wneud fel arall. Pan fyddwn ni'n clapio ddydd Iau bydda i'n clapio eich gwirfoddolwyr," meddai un person y cafodd ei siopa ei wneud ar ei gyfer.

 "Mae'n braf gwybod bod pobl sy'n poeni am bobl eraill. Mae'n gwneud i mi deimlo'n well am y sefyllfa gan wybod bod yna bobl sy'n gallu helpu," meddai rhywun arall.

 "Roedd (y gwirfoddolwr) yn hyfryd ac mor gymwynasgar. Diolchgar iawn am eich holl help ac am ei gael mor gyflym hefyd," oedd barn person arall oedd angen presgripsiwn arno.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.