Anogir preswylwyr i Siopa Diogel Casnewydd wrth i fanwerthu nad yw'n hanfodol ddechrau ailagor.
Wedi ei bostio ar Friday 19th June 2020
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda busnesau sy'n paratoi i ailagor fel rhan o adferiad y genedl wedi cyfnod y cloi.
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru yn gynharach heddiw y bydd yr holl siopau manwerthu nad ydynt yn rai hanfodol ledled y wlad yn gallu ailagor o ddydd Llun 22 Mehefin, ar yr amod eu bod wedi rhoi mesurau ar waith i alluogi pawb i gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol ar eu safleoedd.
I helpu busnesau a siopwyr, mae ymgyrch y Cyngor ar Siopa’n Ddiogel yng Nghasnewydd, yn dwyn ynghyd wybodaeth ar sut beth fydd siopa yng Nghasnewydd.
Mae gwybodaeth ar gael i siopwyr am ba fesurau ychwanegol fydd ar waith i'w helpu i siopa'n ddiogel. Ymhlith y camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd yn uniongyrchol mae:
- atebion cadw pellter cymdeithasol ar gyfer ardaloedd manwerthu a chanolfannau trafnidiaeth
- gweithredu systemau unffordd i gerddwyr a/neu lledu troedffyrdd
- triniaeth gwrthfeirws i bwyntiau y cyffyrddir â nhw’n aml (e.e. rheiliau llaw, biniau, botymau
gwthio, seddi)
- glanhau gwell ar feysydd parcio’r Cyngor
Gall trigolion roi gwybod i ni sut maen nhw'n teimlo am ddychwelyd i ardaloedd siopa'r ddinas drwy ein harolwg ar-lein.
Mae'r ymgyrch hefyd yn adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes i gefnogi busnesau, gyda chyngor ac arweiniad pellach. Bydd swyddogion o'r Cyngor yn asesu a yw busnes yn cydymffurfio â'r gofynion hyn ai peidio drwy gynnal ymweliadau â safleoedd, rhoi cyngor ac ymateb i gwynion gan y cyhoedd ynghylch achosion posibl o dorri'r rheolau.
I gael rhagor o wybodaeth am Siopa’n Ddiogel yng Nghasnewydd, ewch i’n gwefan.
Mae Newport Now, Ardal Gwella Busnes y ddinas, hefyd yn cefnogi ei aelodau i ailagor a gweithredu’n ddiogel. Dysgwch fwy am waith yr AGB yma.