Newyddion

Canmoliaeth i gymunedau sy'n gweithio gyda'i gilydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 16th June 2020
NYCA 1

Un o agweddau cadarnhaol y pandemig coronafeirws yw'r ffordd y mae sefydliadau wedi gweithio gyda'i gilydd i helpu pobl mewn cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae wedi bod mor galonogol, a theimladwy, i weld pobl yn estyn allan i helpu eraill ar adeg o argyfwng.

"Mae gan Gasnewydd draddodiad hir o ddiwylliannau gwahanol sy'n byw ac yn gweithio mewn cytgord ac nid yn unig y mae hyn wedi dod i'r amlwg yn ystod y pandemig, mae hefyd yn cyferbynnu'n llwyr â rhai o'r golygfeydd a welsom yn ddiweddar mewn gwledydd eraill.

"Un enghraifft eithriadol o hyn yw gwaith Cymdeithas Gymunedol Iemenaidd Casnewydd a oedd am wneud gwahaniaeth i drigolion a oedd wedi'u hynysu'n gymdeithasol ac wedi dechrau dosbarthu pecynnau bwyd sawl wythnos yn ôl.

"Hoffwn ddiolch iddynt, y rhai a'u cefnogodd nhw - gan gynnwys staff y Cyngor, GAVO a Pobl - a'r holl grwpiau lleol eraill sydd wedi gweithio gyda ni i helpu unigolion a theuluoedd sy'n agored i niwed yn ein dinas. Rydym mor lwcus i gael pobl mor ofalgar yn byw yng Nghasnewydd."

Dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas, Reggie an-Haddi: "Gorfodwyd pobl yn y gymuned i ynysu o ganlyniad i COVID 19 a theimlai'r Gymdeithas Iemenaidd ei bod mor bwysig i'w cefnogi drwy ddarparu pecynnau bwyd, er bod swyddi llawn amser gan lawer o'r gwirfoddolwyr yn ogystal â gofalu am eu teuluoedd eu hunain. 

"Yn bwysicach, fe wnaethon ni ennill llawer mwy drwy helpu, creodd ymdeimlad o ysbryd cymunedol ac undod ar draws ein cymdogaethau. Dosbarthodd y Gymdeithas i bobl o bob cenedl ar draws y ddinas, yn cynnwys pobl  Iemenaidd, Syriaidd, Eifftaidd, Swdanaidd, Affricanaidd, Jamaicaidd, Gwyn Cymreig ac Iranaidd, pwy bynnag oedd angen ein help. Gyda'n gilydd rydym yn gryfach."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.