Newyddion

Nid oes llawer o amser ar ôl i fusnesau wneud cais am grantiau Covid-19

Wedi ei bostio ar Wednesday 24th June 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn annog pob busnes yn y ddinas i wneud cais am grantiau sy'n gysylltiedig â Covid-19 cyn y dyddiad cau dydd Mawrth 30 Mehefin.

Mae gan fusnesau ychydig o dan wythnos i fanteisio ar grantiau a oedd ar gael yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth.

Hyd yn hyn, mae mwy na £28m wedi'i dalu i fusnesau yng Nghasnewydd, ond nid oes llawer o amser ar ôl i wneud cais am grant ac mae'n bosibl y bydd eich busnes yn dal i allu elwa os byddwch yn gweithredu nawr.

Gweinyddir y grantiau gan y Cyngor ar ran Llywodraeth Cymru. Mae dau ar gael ar gyfer busnesau cymwys:

•           £10,000 yn daladwy i bob safle busnes a ddefnyddir gyda gwerth ardrethol sy'n llai na £12,000. Weithiau, nid oes gan safleoedd bach iawn unrhyw ardrethi i’w talu ond gallant ddal i fod yn gymwys am grant busnes.

•           Grant £25,000 ar gyfer busnes sydd ar agor i’r cyhoedd ac sy’n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Rhaid i’r busnes fod â gwerth ardrethol sydd rhwng £12,001 a £51,000.

Os ydych yn credu y gallai eich busnes fod yn gymwys, mae manylion am sut i wneud cais ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd http://www.newport.gov.uk/cy/Business/Business-rates/Business-Rates.aspx

Os nad ydych yn siŵr a fydd eich busnes yn gymwys, neu os ydych am drafod y broses grantiau, anfonwch e-bost at y tîm yn [email protected] gan rhoi CAIS AM GRANT COVID fel y pwnc.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais a nad yw’ch cais wedi bod yn llwyddiannus neu os nad yw eich busnes yn bodloni unrhyw rai o'r meini prawf uchod, efallai y bydd cymorth ariannol arall mwy addas ar gael. Ewch i https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/cymorth am fwy o wybodaeth.                                  

                                

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.