Newyddion

Cyngor Casnewydd yn gosod nodau ei adferiad strategol ger bron mewn ymateb i Covid-19

Wedi ei bostio ar Wednesday 24th June 2020
StrategicAims2020 Cym_Page_1

Cyfarfu Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd heddiw gan ganolbwyntio'n benodol ar sut mae'r Cyngor wedi ymateb i'r argyfwng iechyd presennol, a'r cynlluniau ar gyfer adferiad.

Dwedodd y Cynghorydd Jane Mudd - Arweinydd y Cyngor,  “Mae argyfwng iechyd Covid19 wedi creu her sylweddol a digynsail i'r modd y mae Cyngor Dinas Casnewydd yn darparu ei wasanaethau. Rydym wedi canolbwyntio ar arbed bywyd, lleihau lledaeniad y feirws a chefnogi ein cymunedau a'r rhai sy'n agored i niwed y mae'r clefyd hwn wedi effeithio arnynt.

"Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae'r Cyngor wedi sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn parhau i gael eu darparu i gymunedau ledled Casnewydd.

"Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'n staff, ein partneriaid, ein trigolion ac i'n gwirfoddolwyr lleol ac arwyr di-glod – mae cymaint o bobl wedi mynd y tu hwnt er mwyn helpu – mae'r ymdrech wedi bod yn rhagorol."

Adleisiodd Aelodau'r Cabinet y teimladau hyn gan roi cydnabyddiaeth i lawer o wasanaethau cyhoeddus, cyrff, elusennau, grwpiau gwirfoddol ac unigolion.

Roedd rhai o'r meysydd gwaith a chymorth allweddol y tynnwyd sylw atynt yn cynnwys:

  • Parhau i gasglu gwastraff ochr y ffordd
  • Dosbarthwyd dros 1,000 o barseli bwyd
  • Ysgolion yn cefnogi plant gweithwyr allweddol a phlant sy'n agored i niwed
  • Lleoliadau Dechrau'n Deg yn gofalu am blant a chefnogi gweithwyr allweddol
  • Gofal a chymorth parhaus a ddarperir gan wasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion y Cyngor
  • Dros £46 miliwn o gymorth busnes wedi ei roi i fusnesau cymwys
  • Gweithio gyda phartneriaid i ddarparu llety saff a diogel i'r digartref 
  • Gweithredu canolfan gyswllt rithwir gan ateb dros 43,000 o alwadau

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae ystadegau wedi dangos arwyddion calonogol fod achosion Covid-19 yn arafu ond mae'r Cyngor yn llwyr ymwybodol y gallai cyfnodau brig barhau i ddigwydd yn y dyfodol. Yn ystod y cyfnod hwn, bu rhywfaint o lacio hefyd ar y cyfyngiadau ac ailsefydlu gwasanaethau'r Cyngor megis canolfan ailgylchu gwastraff y cartref, sefydlu gwasanaeth tracio ca olrhain a pharatoi ar gyfer ailagor ysgolion yn ddiogel.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mudd:  "Rydym bellach wedi cyrraedd sefyllfa lle mae gwasanaethau pellach y Cyngor yn adfer i ffordd 'normal newydd’ o weithio a rhaid i ni ganolbwyntio o'r newydd i sicrhau nad yw'r gwaith da hwn yn cael ei ddadwneud, ein bod yn cefnogi ein heconomi i ailadeiladu a’n bod yn canolbwyntio ar y cymunedau sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan Covid-19.

"Bydd ein nodau adfer strategol yn rhoi ffocws i Aelodau, staff, partneriaid a'n cymunedau er mwyn deall ein blaenoriaethau ar gyfer hyn y flwyddyn nesaf. Nid ydynt yn disodli, ond yn hytrach yn cefnogi cynllun corfforaethol y Cyngor, gan adeiladu ar a sicrhau bod y ffocws a'r ymateb yn briodol yn dilyn yr amser digyffelyb hwn."

Mae'r pedwar nod adfer strategol yn nodi'r heriau ychwanegol y mae Covid-19 wedi'u cyflwyno ac yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol hyn, gan gefnogi:

  • addysg a chyflogaeth
  • yr amgylchedd a’r economi
  • iechyd a llesiant
  • anghenion dinasyddion wedi Covid-19

"Rydym yn cydnabod llawer o faterion gan gynnwys colli cyflogaeth, yr effaith ar fusnes, a chynnydd, cyflawniad a llesiant dysgwyr prif ffrwd a’r rhai sy’n agored i niwed. Bydd y nodau strategol hyn yn ein helpu i ddeall ac ymateb i'r effaith ar nodau economaidd ac amgylcheddol y ddinas ac i alluogi Casnewydd i ffynnu eto.

"Byddwn yn hyrwyddo ac yn diogelu iechyd a llesiant ein pobl, yn diogelu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, ac yn meithrin cymunedau cadarn a chryf.  Byddwn yn rhoi yr adnoddau a'r cymorth i bobl sydd eu hangen arnynt i symud allan o'r argyfwng, gan ystyried yn benodol yr effaith y mae Covid-19 wedi'i chael ar ein cymunedau lleiafrifol ac ymylol." meddai’r Cynghorydd Mudd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.