Amseroedd agor newydd ar gyfer mynwentydd y cyngor
Wedi ei bostio ar Monday 29th June 2020
O ddydd Llun 29 Mehefin, bydd gatiau cerddwyr ar agor ym mynwentydd Cyngor Dinas Casnewydd a bydd mynwentydd ar agor yn ystod yr wythnos i bobl ar droed sy'n dymuno ymweld â beddau.
Caewyd mynwentydd ar ddechrau'r pandemig, heblaw am ar gyfer angladdau, er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a'r staff.
Mae'r Cyngor yn adolygu penderfyniadau am wasanaethau yn barhaus yng ngoleuni'r amgylchiadau diweddaraf yng Nghasnewydd ac yn unol â chanllawiau'r llywodraeth.
Ym mis Ebrill, penderfynwyd ailagor y mynwentydd ar benwythnosau yn unig a chytunwyd bellach i agor y gatiau i gerddwyr ar ddyddiau'r wythnos wrth i ni symud drwy'r cyfnod adfer.
Yn ystod yr wythnos, mae nifer yr angladdau a gwaith gyda pheiriannau ar y safle yn golygu bod angen gwahardd cerbydau ar hyn o bryd. Bydd cerbydau yn cael eu caniatáu i'r mynwentydd ar benwythnosau.
Mae mynediad i'r mynwentydd ar gyfer galarwyr a rhai sy'n tendio beddau yn unig, ac nid ar gyfer ymarfer corff na mynd â chŵn am dro. Rhaid cadw at fesurau ymbellhau cymdeithasol bob amser.
Bydd gatiau i gerddwyr yn mynwentydd Sain Gwynllyw, Christchurch a Chaerllion ar agor o 6.30am tan 4.45pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd gatiau mynediad i gerddwyr a cherbydau ar agor o 6.30am tan 4.45 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.