Newyddion

Strategaeth am adferiad economaidd

Wedi ei bostio ar Wednesday 24th June 2020

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig ymagwedd gam wrth gam i gefnogi sefydlogrwydd a thwf economaidd y ddinas yn sgil y pandemig coronafeirws ac ar gyfer y dyfodol.

Mae ei strategaeth yn canolbwyntio ar adfer yn y tymor byr ond hefyd mae'n edrych ar y cyfleoedd y mae'n rhaid i Gasnewydd gydio ynddynt trwy adleoli ei hun yn yr adferiad tymor canolig a thymor hwy

Bydd y cyngor yn defnyddio'r strategaeth bresennol ar gyfer twf economaidd fel sylfaen i'w gynllun, gan gydnabod y bydd angen iddo gymryd i ystyriaeth effaith y digwyddiadau diweddar wrth gynnal ei ffocws ar wireddu potensial y ddinas.

Cefnogi busnesau'r ddinas ac arwain y ddinas trwy'r cyfnod adfer fydd cam cyntaf y cynllun cynhwysfawr a gytunwyd gan y cabinet heddiw.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Dechreuon ni eleni yn optimistaidd iawn oherwydd, yn amlwg, bod Casnewydd wedi dod yn ddinas fwy cystadleuol gyda rhai busnesau gwych, yn barod i fod yn rhan ganolog o'r chwyldro digidol.

"Mae'r pandemig a'r cyfnod cloi wedi cael effaith andwyol sydd wedi gofyn am ymyriad ariannol sylweddol gan y llywodraeth. Yng Nghasnewydd, mae'r cyngor wedi dosbarthu mwy na £46 miliwn mewn cymorth i fusnesau ond bellach mae angen i ni gymryd camau brys i sicrhau y gall yr economi adfer ac y gall busnesau nid yn unig oroesi ond parhau i dyfu.

"Ynghyd â'r heriau y mae ailadeiladu'r economi yn eu cyflwyno, bydd hefyd gyfleoedd ac mae'n rhaid peidio â methu'r rhain er mwyn i ni lwyddo i sicrhau bod Casnewydd yn cael y buddion ar gyfer busnesau, cyflogeion, yr economi leol a'r amgylchedd.

"Mae eisoes gennym berthynas wych gyda chyflogwyr yn y ddinas a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd er budd Casnewydd."

Yn y tymor canolig, bydd y ffocws ar sicrhau mwy o fewnfuddsoddi a hyrwyddo'r ddinas yn ogystal â helpu darparwyr addysg bellach ac uwch i ehangu ac ail-addasu i newidiadau posibl mewn amgylchiadau.

Bydd cynlluniau yn y dyfodol yn ceisio dod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng yr economi, yr amgylchedd a'r gymdeithas er mwyn sicrhau mwy o wydnwch economaidd a lles y trigolion.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.