Casnewydd i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog
Wedi ei bostio ar Monday 22nd June 2020
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn codi'r faner y tu allan i'r ganolfan ddinesig i goffáu Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni.
Oherwydd pandemig y coronafeirws, ni fydd seremoni codi baner swyddogol eleni ond mae'n bwysig cydnabod a dangos cefnogaeth i'r dynion a'r menywod sy'n rhan o gymuned y lluoedd arfog. Bydd y faner wedi’i chodi am wythnos o ddydd Llun 22 Mehefin.
Dywedodd Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, y Cynghorydd Mark Spencer, "Mae dangos cefnogaeth i'r lluoedd arfog yn rhoi hwb mawr i forâl y milwyr a'u teuluoedd.
"Gan na allwn gynnal ein digwyddiad arferol, ni ddylem anghofio cefnogi ein lluoedd arfog a'u teuluoedd, cyn-aelodau’r lluoedd arfog a’r rhai wrth gefn sy'n rhoi o'u hamser sbâr, yn ogystal â lluoedd y cadetiaid. Neilltuwch foment ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog i feddwl amdanynt.”
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda phartneriaid o’r gwasanaethau cyhoeddus, elusennau a sefydliadau cymunedol eraill i gefnogi cymuned y lluoedd arfog mewn ffyrdd amrywiol.
Meddai arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jane Mudd, "Llofnododd Cyngor Dinas Casnewydd Gyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog yn 2016 sy'n cydnabod yr aberthau a wneir gan aelodau o'r lluoedd arfog a'u teuluoedd. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda phartneriaid o’r gwasanaethau cyhoeddus, elusennau a sefydliadau cymunedol eraill i gefnogi cyn-aelodau ac aelodau presennol y lluoedd arfog.
"Ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog mae'n bwysig cydnabod a chefnogi dynion a menywod y lluoedd arfog, eu teuluoedd, y personél wrth gefn a chyn-aelodau yn ein dinas."