Cofrestriadau geni yn ailgychwyn Ddydd Llun 29 Mehefin
Wedi ei bostio ar Thursday 25th June 2020
Gall cofrestriadau geni yng Nghymru ailgychwyn bellach – penderfyniad sydd i'w groesawu, gan y bydd llawer o rieni newydd yn awyddus i gwblhau'r garreg filltir bwysig hon ar gyfer eu babi.
Nodwch fod trefniadau newydd wedi'u gwneud ar gyfer pob genedigaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan/Gwent. Mae’r pum awdurdod lleol sef Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen yn cydweithio er mwyn i chi allu mynd i'ch swyddfa leol i gwblhau'r cofrestriad a phrynu tystysgrif geni eich babi.
Oherwydd yr ôl-groniad o gofrestriadau, caiff apwyntiadau eu blaenoriaethu ar sail dyddiad geni'r babi, gyda'r rhai sydd wedi disgwyl hiraf yn cael eu cofrestru gyntaf.
Anogir rhieni y ganwyd eu babanod cyn 1 Ebrill, 2020, i gysylltu i gofrestru. Bydd y ffocws yn symud i'r rhai a anwyd ar ôl y dyddiad hwn cyn gynted â phosibl, a rhoddir cyhoeddusrwydd i'r diweddariadau.
Bydd angen i rieni newydd fynychu'r swyddfa gofrestru yn bersonol ond bydd swyddfeydd yn lleihau'r amser cyfweld hwn drwy gasglu gwybodaeth ymlaen llaw.
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol am ragor o fanylion.
Yng Nghasnewydd, gallwch ofyn am apwyntiad cofrestru ar-lein.