Cynnig Gofal Plant yr Haf
Wedi ei bostio ar Wednesday 1st July 2020
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd a Chyswllt Cymunedol Dyffryn yn darparu gofal plant saff a diogel i weithwyr allweddol yn ystod gwyliau haf yr ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Rydym yn gwybod pa mor bwysig mae ein darpariaeth gofal plant mewn ysgolion ac mewn hybiau Dechrau’n Deg wedi bod i rai rhieni yn ystod y pandemig ond roedd hynny’n gorffen ddiwedd y tymor.
“Penderfynom y byddem yn camu i’r adwy a darparu gofal plant yn ystod gwyliau’r haf er nad oedd gofyn i ni wneud hynny.
“Mae arnom ddyled enfawr o ddiolchgarwch i’n gweithwyr allweddol ac maent yn hanfodol o hyd wrth i ni symud yn ofalus drwy’r cyfnod adfer. Rwy’n falch ein bod yn gallu parhau i ddarparu’r gofal plant hwn.
“Hoffwn ddiolch i Gyswllt Cymunedol Dyffryn oherwydd bod eu cefnogaeth yn golygu cynllun ychwanegol a mwy o leoedd i ategu ein cynnig ein hunain. Gall rhieni fod yn dawel eu meddwl y caiff amgylchedd diogel ei ddarparu i’r holl blant fel a wnaed yn ystod y tri mis diwethaf.”
O 20 Gorffennaf tan 26 Awst, bydd pedwar lleoliad yn gallu cymryd 160 o blant rhwng 5 a 12 oed am uchafswm o bedair wythnos ar gyfer unrhyw un plentyn.
Yn ogystal, mae’r cyngor yn darparu 61 o leoedd ar gyfer plant 2 i 4 oed mewn chwe lleoliad o amgylch y ddinas. Caiff staff cymwys y cyngor eu cynorthwyo gan gynorthwywyr addysgu.
Bydd y ddwy raglen yn gweithredu rhwng 9am a 4pm Dydd Llun i Ddydd Gwener ac mae’n rhaid cadw lle.
Gall gweithwyr allweddol y mae eu plant eisoes yn derbyn gofal plant wneud cais am le o yfory (Dydd Iau 2 Gorffennaf) tan 7 Gorffennaf. Os bydd lleoedd ar gael o hyd, agorir y broses ymgeisio i weithwyr allweddol eraill sy’n bodloni’r meini prawf a gallant wneud cais rhwng 8 a 13 Gorffennaf.
Bydd y ddarpariaeth gofal plant estynedig hon yn disodli’r cynlluniau chwarae haf arferol.