Newyddion

Ysgolion Casnewydd i ailagor i'r holl ddisgyblion o fis Medi

Wedi ei bostio ar Thursday 9th July 2020

Heddiw, mae Casnewydd wedi croesawu cynlluniau’r Gweinidog dros Addysg i ganiatáu i ysgolion a all wneud hyn ailagor yn ddiogel o wythnos gyntaf mis Medi, a phob ysgol arall i ailagor o 14 Medi.

Mae cynlluniau a pharatoadau ar y gweill rhwng y cyngor a’r ysgolion yn yr ardal i adolygu asesiadau risg, prosesau a systemau i sicrhau y gall ysgolion unigol groesawu disgyblion yn ôl yn ddiogel yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ysgolion a all wneud hyn yn ailagor o wythnos gyntaf y tymor. Gallai fod angen i rai grwpiau penodol o ddisgyblion gael eu blaenoriaethu yn ystod yr wythnos hon, megis Blwyddyn 7, 12, 13 ac Unedau Arbennig ar gyfer Disgyblion Uwchradd, Unedau Arbennig ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Blwyddyn 6. Bydd rhieni’n cael gwybodaeth mwy penodol gan eu hysgol a’r Awdurdod Lleol wrth iddi ddod i law.

O 14 Medi, bydd presenoldeb ysgol yn orfodol. Gofynnir i rieni gysylltu â'u hysgol os na all disgybl fynychu i drafod ymhellach.

Bydd gan bob ysgol heriau lleol i fynd i'r afael â hwy, gan gynnwys lefelau staffio. Mae gwaith ar y gweill gyda chydweithwyr i gadarnhau trefniadau cludiant i'r ysgol. Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio'n agos gyda phob ysgol i oresgyn problemau o'r fath.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi £29 miliwn i gynyddu cymorth i ddysgwyr er mwyn lleihau effeithiau'r amhariad oherwydd yr argyfwng parhaus. Bydd cyfwerth â 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gynorthwywyr addysgu yn cael eu recriwtio ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn ysgol nesaf, gan dargedu cymorth ychwanegol ym mlynyddoedd 11, 12 a 13, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed o bob oedran. Byddwn yn gweithio gydag ysgolion i egluro’r manylion.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd:  "Dros y misoedd diwethaf, bydd llawer o ddysgwyr wedi teimlo'n bryderus am golli dysgu a methu gweld eu ffrindiau. Rwy’n croesawu cynllun y Gweinidog i ganiatáu i ysgolion groesawu disgyblion yn ddiogel yn ôl ym mis Medi, yn unol â'r holl fesurau diogelwch angenrheidiol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

"Rydyn ni'n gwybod y gall staff sy'n gweithio'n galed mewn ysgolion, dysgwyr a'u teuluoedd fod dan bwysau emosiynol, ariannol a seicolegol ychwanegol yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag ysgolion a lleoliadau i ystyried y ffordd orau o gefnogi anghenion lles parhaus pob dysgwr ar yr adeg anodd hon."

Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, y Cynghorydd Gail Giles: “Mae Casnewydd wedi bod yn hynod falch o’r gwelliannau a wnaed yn yr ysgolion yn y blynyddoedd diwethaf. Yn anffodus, mae dysgu’r disgyblion wedi dioddef yn ddifrifol oherwydd yr argyfwng, ond rydym yn benderfynol o ddod â phawb yn ôl ar y trywydd iawn cyn gynted â phosib. Rydym yn croesawu yn fawr iawn yr addewid i roi £29 miliwn gan Lywodraeth Cymru i recriwtio rhagor o staff i gefnogi’r cam adfer, lleihau’r effaith ar ddisgyblion, a pharhau â’r gwaith presennol o godi safonau ysgolion.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.