Newyddion

Llyfrgell Ganolog Casnewydd i ailagor

Wedi ei bostio ar Friday 10th July 2020

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn dechrau ar y broses o ailgychwyn gwasanaethau llyfrgell drwy ailagor Llyfrgell Ganolog Casnewydd o ddydd Mawrth 14 Gorffennaf ymlaen.

Bydd y Llyfrgell ar agor o Ddydd Mawrth - Dydd Gwener, 10am-12.30 pm ac 1pm-4pm. I ddechrau, dim ond y Llyfrgell Ganolog fydd yn ailagor, tra bod y Cyngor yn gweithio tuag at ailagor holl lyfrgelloedd y ddinas.

Bydd gwasanaeth llai yn cael ei gynnig yn y Llyfrgell Ganolog, gyda'r aelodau'n gorfod trefnu slot apwyntiad i ymweld er mwyn casglu eitemau a gadwyd ar-lein a phori o ystod fach o lyfrau ffuglen sydd heb eu cadw.

Bydd ymweliadau'n cael eu cyfyngu i ddau o bobl a phymtheg munud am bob archeb.  Ni fydd yr holl wasanaethau eraill, gan gynnwys defnydd o offer TG, ar gael yn y lle cyntaf.

Er bod gwasanaethau corfforol yn cael eu hadfer yn raddol, mae llyfrgelloedd Casnewydd yn parhau i gynnig mynediad at wasanaethau digidol fel e-lyfrau, llyfrau sain a chylchgronau ar gyfer aelodau.

Bydd pob benthyciad llyfr cyfredol yn cael ei ymestyn yn awtomatig, tra bydd ffioedd a thaliadau hwyr yn parhau i gael eu hatal. Gofynnir i aelodau ddal eu gafael ar unrhyw lyfrau sydd ganddynt ar hyn o bryd, gan osgoi eu dychwelyd nes i'r gwasanaethau corfforol gael eu hadfer yn llawn.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn fydd i'w ddisgwyl, a sut i drefnu apwyntiad i ymweld, ar gael ar wefan y cyngor.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.