Newyddion

Maer newydd yn cychwyn ar ei waith

Wedi ei bostio ar Tuesday 28th July 2020

Y Cynghorydd Tom Suller yw Maer newydd Casnewydd a dinesydd cyntaf y ddinas yn dilyn cyfarfod cyffredinol blynyddol y Cyngor ar 28 Gorffennaf.

Oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith yn sgil pandemig COVID-19 ni chafwyd unrhyw seremoni arwisgo ffurfiol eleni. 

Yn gynghorydd ward ar gyfer Maerun, mae'r Cynghorydd Suller wedi bod yn gwasanaethu'r ddinas ers 2008.

Ef yw’r 388fed i'w gofnodi’n Faer Dinas Casnewydd. Cofnodwyd y Maer cyntaf yn 1314.

Gwraig y Cynghorydd Suller, Patricia, yw Maeres newydd Casnewydd.  Cyfarfu'r cwpl yn 1991 pan oedd y ddau’n gweithio yng ngweithfeydd dur Tremorfa a phriodon nhw’n ddiweddarach y flwyddyn honno.

Dirprwy Faer Casnewydd yw'r Cynghorydd Val Dudley.

Mae'r Cynghorydd Dudley yn cynrychioli ward Tŷ-Du ac mae wedi bod yn gynghorydd ers 2017. Mae hi'n aelod hirsefydlog o Eglwys Sant Ioan, Tŷ-Du ac mae ei diddordebau'n cynnwys lles anifeiliaid, gwylio rhaglenni bywyd gwyllt a garddio.

Elusen ddewisedig y Maer ar gyfer 2020/21 yw Cymdeithas Alzheimer Cymru.

Diolchwyd i’r Maer a’r Faeres sy’n ymddeol, y Cynghorydd William J. Routley a Mrs Allison Routley, am eu blwyddyn brysur o waith. 

Mae'r Cynghorydd Suller yn cymryd lle'r Cynghorydd David Williams sydd wedi gohirio ei flwyddyn yn Faer.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.