Newyddion

Eich helpu i ymweld â Chasnewydd yn ddiogel

Wedi ei bostio ar Friday 10th July 2020

Wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu codi'n raddol yng Nghymru, mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda busnesau lleol i greu amgylchedd diogel ar gyfer ymwelwyr a siopwyr.

O Ddydd Llun 13 Gorffennaf ymlaen, pan fydd mwy o leoliadau lletygarwch a thwristiaeth yn gallu ailagor, bydd canol dinas Casnewydd hefyd yn elwa ar rai newidiadau i'r ardaloedd penodol i gerddwyr.

I gefnogi cadw pellter cymdeithasol a gwella diogelwch ymwelwyr, mae rhwystrau ychwanegol yn cael eu gosod ar adegau allweddol i atal cerbydau rhag mynd i ardaloedd sydd i gerddwyr. Bydd gorchmynion traffig newydd hefyd ond yn caniatáu cludiadau ar gyfer busnesau rhwng 6am a 10am.

Nid yn unig bydd hyn yn caniatáu mwy o le diogel i'r rhai sy'n siopa, bydd hefyd yn cefnogi mwy o dafarndai, bwytai a chaffis i ddechrau cynnig gwasanaethau awyr agored.

Mae'r Cyngor wedi addasu ei bolisi palmentydd presennol i ganiatáu mwy o fasnachu awyr agored a bydd yn darparu atalfeydd i fusnesau sy'n dymuno manteisio ar y cyfle i weini cwsmeriaid y tu allan.

Bydd yr atalfeydd nid yn unig yn helpu i ddarparu man awyr agored wedi'i reoli; caiff negeseuon arnynt eu defnyddio hefyd i atgoffa cwsmeriaid sut y gallant ymweld a siopa'n ddiogel yng Nghasnewydd.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:  "Rydym yn gweithio'n galed i gefnogi ein busnesau lleol ac yn edrych ar yr holl ffyrdd y gallwn helpu'r gwahanol sectorau i ffynnu yn sgil Covid.

"Drwy helpu i greu canol dinas apelgar a diogel, rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn dychwelyd a bydd ein heconomi leol yn ffynnu eto."

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau’r Ddinas: "Cyn agor manwerthu nad oedd yn hanfodol y mis diwethaf, cyflwynwyd arwyddion, marciau ar lawr, glanhau ychwanegol a thriniaethau gwrthfeirws fel rhan o #SiopaDiogelCasnewydd. Bydd hyn yn parhau wrth i fwy a mwy o gyfleusterau allu agor a chyda'r mesurau newydd hyn, byddwn yn gwella ac yn ehangu ein nod o gefnogi dinas ddiogel a chroesawgar i bawb."

Mae'r gefnogaeth i fusnesau hefyd yn estyn ar draws y ddinas. Mae dros 900 o fusnesau wedi cael eu cefnogi a'u cynghori gan ein timau gwasanaethau rheoleiddio (Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach) ac mae dros £46 miliwn o gymorth wedi'i ddarparu i sefydliadau cymwys.

Mae busnesau trwyddedig annibynnol, nad ydynt wedi'u lleoli yng nghanol y ddinas, ond sydd hefyd yn gallu gweithredu o ddydd Llun, wedi bod yn cysylltu â swyddogion y Cyngor i asesu eu hanghenion a thrafod eu cynlluniau ail-agor.  Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod y fasnach drwyddedig yng Nghasnewydd yn ffynnu ac yn gwneud hynny'n ddiogel ac yn gyfrifol.

Mae map o ganol y ddinas yn dangos sut mae'r prif ardaloedd siopa wedi'u cydgysylltu gan yr ardal i gerddwyr a lle mae'r mesurau diogelwch gwell wedi'u gosod.

Gan fod y stryd fawr bellach yn destun gorchymyn traffig newydd, bydd gwasanaethau bws yn gweithredu'n uniongyrchol i orsaf fysiau Casnewydd.

www.newport.gov.uk/visitsafe

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.