Newyddion

Seremonïau Sifil yn Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 1st July 2020

Bydd seremonïau priodas sifil a phartneriaeth sifil yn ailddechrau yng Nghasnewydd o 1 Gorffennaf 2020.

Mae’r Cyngor wedi cael arweiniad gweithredol gan Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol yng Nghymru a Lloegr a bydd yn cydymffurfio ag arweiniad Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol, teithio hanfodol ac ymgasglu cymdeithasol.

Caiff seremonïau eu cynnal ym Mhlasty’r ddinas. Efallai y bydd Safleoedd Cymeradwy eraill yn destun cyfyngiadau Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â’r sector lletygarwch o hyd.

Mae’r tîm yn Swyddfa Gofrestru Casnewydd wedi bod yn flaenllaw yn ystod argyfwng y pandemig ac mae’n ymwybodol bod y Coronafeirws ar waith o hyd.

Er bydd ailddechrau seremonïau'n galluogi parau i briodi a ffurfio partneriaethau sifil, bydd angen cadw’n llym at arweiniad Llywodraeth Cymru a Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pawb.

Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod y seremonïau'n arbennig ac yn ystyrlon tra’n cadw at yr arweiniad angenrheidiol.

Darganfyddwch fwy