Newyddion

Presenoldeb mewn Claddedigaethau - nifer y galarwyr a ganiateir

Wedi ei bostio ar Friday 31st July 2020

Datganiad Fforwm Lleol Cymru Gydnerth (FfLlCG) Gwent ar niferoedd mewn gwasanaethau CLADDU

Heddiw (30/07/20), cytunodd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent, gan gynnwys y pum cyngor, gynyddu nifer y galarwyr a ganiateir i fynychu angladdau mewn mynwentydd yn y pum awdurdod lleol yng Ngwent, i 30. Daw hyn i rym ddydd Llun 3 Awst.

Oherwydd pandemig parhaus Covid-19 ac yn unol â chyfyngiadau'r Llywodraeth, mae’n dal yn angenrheidiol cyfyngu ar nifer y bobl sydd mewn unrhyw fan cyhoeddus a sicrhau'r ymbellhau cymdeithasol angenrheidiol.  Felly, ni fydd newid o ran nifer y galarwyr a ganiateir mewn amlosgiadau yn Amlosgfa Gwent, sef 10 person.

Fodd bynnag, mae’r cyngor yn cydnabod ac yn deall yn llawn pa mor anodd y gall y cyfyngiadau hyn fod i deulu a chyfeillion yr ymadawedig.

Mae lefel y galw a'r risg gysylltiedig yn y safleoedd hyn wedi cael ei hadolygu'n gyson a llwyddwyd i lacio’r cyfyngiadau cyn gynted ag y barnwyd ei bod yn ddiogel ac yn briodol gwneud hynny i'r cyhoedd ac i'r staff.

Mae'r holl benderfyniadau’n cael eu gwneud yn dilyn adolygiad o asesiadau risg sy’n cynnwys ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys y gallu i gynnal a gorfodi'r gofynion ymbellhau cymdeithasol dau fetr yn ddiogel, a'r effaith y byddai cynnydd mewn presenoldeb yn ei chael ar iechyd, diogelwch a lles parhaus pawb a oedd yn bresennol, y rhai oedd yn rheoli ac yn gweinyddu'r angladd.

Mae'r nifer cyfredol yn cefnogi’r gwaith o amddiffyn y cyhoedd, yr ymdrech barhaus i arafu lledaeniad y feirws, ac yn sicrhau y gall gwasanaethau profedigaeth barhau i reoli angladd ddiogel ac urddasol.

Ni wnaed y penderfyniad gwreiddiol i gyfyngu nifer y galarwyr yn ddi-hid.  Mae parch i'r ymadawedig a thosturi at y rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan bwysig o'n penderfyniadau, ond rhaid i ddiogelu iechyd a lles y cyhoedd, staff yr angladd a'r fynwent fod yn brif flaenoriaeth yn ystod yr argyfwng iechyd y cyhoedd parhaus hwn.

Bydd partneriaid Fforwm Lleol Gydnerth Gwent yn parhau i adolygu'r mater hwn tra bod pandemig Covid-19 yn dal i gael effaith ar ardal Gwent.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.