Newyddion

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc: Winners yn dangos cariad tuag at ei frawd

Wedi ei bostio ar Thursday 30th January 2020

Ac yntau ddim ond yn 11 oed, mae Winners Sessay eisoes yn gwybod sut beth yw gofalu am eraill am ei fod yn chwarae rhan bwysig yn y rôl o ofalu am ei frawd Eliott, 9, sydd ag anghenion cymhleth.

Mae Winners yn un o blith mwy na 90 o blant a phobl ifanc sy'n cael eu cefnogi gan Ofalwyr Ifanc Casnewydd Barnardo's Cymru, gwasanaeth a sefydlwyd i roi seibiant iddynt oddi wrth eu cyfrifoldebau gofalu.

Mae Winners yn rhoi help llaw i Stella, sy'n fam i dri o blant, gyda phopeth o ymolchi, gwisgo a bwydo Eliott i godi yn ystod y nos i wneud yn siŵr bod ei frawd yn ddiogel os ydy o wedi deffro ac wedi crwydro o'i ystafell wely i fynd i lawr y grisiau.

Dydy Eliott ddim yn gallu cyfathrebu ar lafar, mae'n awtistig ac mae ganddo Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, felly gall fod yn her i'r teulu o Ringland, Casnewydd ofalu amdano.

"Rwy'n rhuthro i lawr i weld sut mae o ac atal unrhyw beth drwg rhag digwydd iddo," esboniodd Winners, un o blith miloedd o bobl ifanc sy'n cael eu cydnabod heddiw ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwr Ifanc (dydd Iau 30 Ionawr).

Er bod helpu i ofalu am Eliott yn dipyn o gyfrifoldeb, mae Winners yn mwynhau cael gwneud hynny. "Rwy'n mwynhau chwarae gyda fo, ac ar ôl i mi dyfu i fyny mi fydda i'n gwybod sut i ofalu am blant. Rwyf wrth fy modd yn dangos i Mam pa mor gyfrifol ydw i," meddai.

Pan fydd pethau'n anodd, gall siarad â'i weithiwr prosiect Barnardo's Cymru ynghylch yr hyn sy'n ei boeni, ac mae'n mwynhau cael cwrdd â gofalwyr ifanc eraill yn un o'u clybiau cymdeithasol.

"Rwy'n hoffi mynd i'r digwyddiadau Gofalwyr Ifanc am fy mod i'n cael cwrdd â phobl ifanc gyda brodyr a chwiorydd â phroblemau. Cyn hynny, roeddwn i'n teimlo mai fi oedd yr unig un â brawd anabl. Mae llawer o gyfleoedd i wneud chwaraeon, ac rydym yn cael mynd i lefydd fel Oakwood. Rydw i hefyd yn dysgu am anableddau a sut i ofalu am fy mrawd," meddai Winners.

Dywedodd Jon Hilder, rheolwr tîm gyda Barnardo's Cymru: "Rydym yn cefnogi amrywiaeth eang o bobl ifanc sy'n gyfrifol am ofalu am riant neu frawd neu chwaer a allai fod yn anabl, bod â chyflwr iechyd meddyliol neu gorfforol neu broblemau'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau.

"Mae'n eithriadol o bwysig sicrhau eu bod nhw'n cael cymorth oherwydd gall bod yn ofalwr ifanc fod yn heriol a gall effeithio ar eu cyfleoedd cymdeithasol, eu haddysg a'u lles ac iechyd meddwl eu hunain.

"Mae sawl ffordd y gallan nhw ei chael hi'n anodd. Efallai nad oes ganddyn nhw'r wisg ysgol briodol neu does ganddyn nhw ddim digon o amser i orffen eu gwaith cartref. Efallai nad ydynt yn gallu canolbwyntio yn yr ysgol am eu bod nhw'n poeni am yr unigolyn maen nhw wedi'i adael ar ôl gartref ac efallai nad oes ganddyn nhw gymaint o incwm gwario â phobl ifanc eraill."

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol: "Er bod plant a phobl ifanc, fel Winners, yn aml yn gofalu am riant neu frawd neu chwaer am eu bod yn eu caru ac yn dymuno gwneud hynny, gall olygu eu bod nhw'n ysgwyddo llawer o gyfrifoldeb o oedran ifanc, a gall hynny gael effaith fawr ar eu bywydau.

"Dyna pam mae'r prosiect ardderchog hwn mor bwysig - mae'n cynnig cymorth hanfodol i ofalwyr ifanc yn ein dinas. Byddwn yn annog unrhyw un dan 25 sy'n helpu i ofalu am berthynas neu rywun annwyl i gysylltu â Barnardo's ar 01633 251152, e-bost [email protected] neu ffonio'r cyngor ar 01633 656656."

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan y cyngor drwy Teuluoedd yn Gyntaf Casnewydd ac mae'n cynnig cymorth i bobl rhwng 8 a 25 oed. Mae gan bob unigolyn ifanc gynllun cymorth unigol ac mae'n gallu cymryd rhan mewn chwaraeon, grwpiau celf, clybiau cymdeithasol a thripiau. Maen nhw hefyd yn cael cyfle i siarad â'u gweithiwr cymorth yn yr ysgol sy'n gallu gweithredu fel eiriolwr pan maen nhw'n poeni am broblemau.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc ar 30 Ionawr gyda ffilm fer sy'n cynnwys Winners - https://youtu.be/v0NZbv3uz0U -ar ei wefan ac mae'n ariannu gweithgareddau hanner tymor ar gyfer y gofalwyr.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.