Mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydanol yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Wednesday 22nd January 2020
Mae disgwyl i Gasnewydd gael 17 o bwyntiau gwefru ychwanegol ledled y ddinas diolch i gyllid.
Mae awdurdodau lleol Gwent wedi llwyddo i gael £459,000 gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (SCAL) i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydanol mewn meysydd parcio mewn ardaloedd preswyl.
Dylai’r gwaith o osod y pwyntiau fod wedi’i gwblhau erbyn 31 Mawrth 2020 gyda’r pwyntiau gwefru yn dod yn weithredol o 1 Ebrill 2020.
Mae’r gosodiadau newydd yn cynnwys tri phwynt gwefru dwbl ym maes parcio Glan yr Afon, maes Parcio Hill Street a maes parcio Maendy gyda phedwar pwynt gwefru dwbl ym maes parcio Faulkner Road. Caiff pwyntiau gwefru dwbl eu gosod ym meysydd parcio Stow Hill a Mill Parade hefyd.
Bydd y costau Talu ac Arddangos yn dal yn berthnasol yn ystod yr amseroedd a nodir a’r gost am ddefnyddio’r pwyntiau gwefru fydd 95c ynghyd â 25c fesul kWh.
Dewiswyd y pwyntiau gwefru yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb a gynhaliwyd ledled Gwent a byddant ar gael drwy’r dydd, bob dydd i’r holl drigolion, ymwelwyr a busnesau.
Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, Dirprwy Arweinydd ac Aelod cabinet y Cyngor dros Wasanaethau’r Ddinas: “Rydym ni wrth ein bodd o fod wedi cydweithio â holl awdurdodau lleol Gwent i osod y pwyntiau gwefru ychwanegol hyn ac rydym yn hynod ddiolchgar am y cyllid hwn i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru sydd ar gael yng Nghasnewydd a chefnogi ein huchelgais ehangach i greu amgylchedd gwyrddach ac iachach.
“Fel Cyngor, rydym wedi cyflwyno cerbydau trydanol i’n fflyd ac yn gobeithio drwy gael mwy o bwyntiau gwefru yng Nghasnewydd a ledled Gwent, y byddwn yn annog preswylwyr i ddewis opsiynau cerbyd mwy cynaliadwy.”
Prif nod y cynllun yw mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal pobl mewn ardaloedd preswyl rhag manteisio ar gerbydau trydanol gan nad oes ganddynt gyfleusterau parcio oddi ar y stryd (h.y. dim rhodfa neu fodurdy lle byddai modd gwefru cerbyd trydanol).
Cafodd y bid ar y cyd ei gyflwyno gan yr awdurdodau gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Mae'r project hefyd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru a ariannodd yr astudiaeth ddichonoldeb.
I ddod o hyd i bwyntiau gwefru presennol yn eich ardal, ewch i Zap Map https://www.zap-map.com/live/ neu lawrlwythwch yr app Zap Map ar eich dyfais addas.