Newyddion

Gwneud cartrefi'n gynnes ac yn ddiogel

Wedi ei bostio ar Monday 13th January 2020
Warm house - with scarf

Mae benthyciadau gwella tai ar gael i landlordiaid a pherchnogion tai preifat y mae angen trwsio neu foderneiddio eu heiddo.

Un o ddibenion y benthyciadau yw sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, ond maen nhw hefyd ar gael i berchnogion-feddianwyr er mwyn iddynt allu gwneud eu cartrefi'n ddiogel ac yn gynnes.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Dyma gyfle gwych i berchenogion a landlordiaid roi bywyd newydd i'w heiddo gwag sy'n dirywio a'u troi'n gartrefi i'r bobl hynny sydd eu hangen.

"Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig mwy o arian ar gyfer y benthyciadau hyn er mwyn mynd i'r afael ag eiddo gwag ledled y wlad. Rydym am ddefnyddio'r arian rydym wedi'i gael i fynd i'r afael â'r broblem gyda chartrefi gwag ac mae'r cynllun nid yn unig o fudd i berchenogion a landlordiaid ond hefyd i feddianwyr posibl a chymdogion.

Maen nhw ar gyfer trwsio neu wella cartrefi unigol, ailwampio eiddo gwag neu drosi eiddo nad ydyn nhw'n rhai preswyl i fod yn un neu ragor o unedau byw ynddynt, pan nad yw cyllid masnachol ar gael yn rhwydd.

Gellir rhoi arian i berchenogion tai cymwys a fydd yn meddiannu'r eiddo ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau. Gallai hefyd fod yn arbennig o ddefnyddiol i berchen-feddianwyr hŷn sydd heb forgais ond sydd ag incwm isel.

Gall landlordiaid hefyd ymgeisio am fenthyciadau i droi eiddo gwag, rhai masnachol a phreswyl, yn gartrefi newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig yr arian ar gyfer y cynllun diogel a chynnes sy'n cael ei weinyddu gan gyngor y ddinas.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.newport.gov.uk/housing; e-bostiwch [email protected]

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.