Gall grantiau helpu i wneud bywyd yn haws
Wedi ei bostio ar Thursday 30th January 2020
Gall trigolion Casnewydd ag anableddau wneud cais am gyllid ar gyfer addasiadau i'w cartrefi i'w helpu i gynnal eu hannibyniaeth.
Mae grantiau cyfleusterau i bobl anabl a diogelwch yn y cartref seiliedig ar brawf modd ar gael i berchnogion tai a thenantiaid preifat ar gyfer amrywiaeth o eitemau gan gynnwys canllawiau cydio, lifftiau grisiau, ystafelloedd gwlyb a rampiau.
Bydd tîm grantiau gwella tai arbenigol Cyngor Dinas Casnewydd hefyd yn rheoli'r project o'r dechrau i'r diwedd yn dilyn asesiad gan un o'n therapyddion galwedigaethol cymwys.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros wasanaethau cymdeithasol: "I lawer o bobl hŷn a'r rhai sydd ag anableddau, gall addasiad bach i'w cartref wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau.
"Mae'r Cyngor hefyd yn gallu cynnig proses rheoli project, o'r cais i'w gwblhau, i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddidrafferth. Dylai unrhyw un sy'n credu y gall elwa o un o'r grantiau gysylltu â'r tîm am ragor o wybodaeth a chyngor."
I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais ar-lein, ewch i www.newport.gov.uk/grantiautai
. Gallwch hefyd e-bostio [email protected] neu ffoniwch 01633 656656.