Gallai cyn orsaf drenau ddod yn gyrchfan digidol
Wedi ei bostio ar Thursday 23rd January 2020
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymchwilio i gynnig arloesol i ddod â gofod cydweithio i ganol y ddinas yn amodol ar gyllid.
Mae'r cyngor yn ceisio gweithredwr masnachol i ddod yn denant cyngor ar gyfer cynllun posibl yng nghyn-adeilad yr orsaf drenau.
Yn ei gyfarfod diweddaraf, rhoddodd y cabinet gymeradwyaeth mewn egwyddor i'r cynnig.
Gallai oddeutu 9,000 tr sg ar y llawr daear a'r llawr cyntaf, sy'n cael eu defnyddio gan wasanaethau'r cyngor, ddod ar gael i fusnesau newydd yn y sectorau digidiol, technoleg a chreadigol.
Mae lloriau arall yn gartref i Academi Meddalwedd Cenedlaethol penigamp Prifysgol Caerdydd na fydd yn cael ei effeithio gan y cynnig hwn.
Mae'r cyngor yn chwilio am rywun sydd ag enw da a hanes o redeg cyfleusterau tebyg fydd yn gallu cynnig gwasanaethau cymorth unigryw i aelodau.
Os bydd tenant, bwriedir y bydd staff y cyngor yn symud o'r adeilad Queensway i adeilad arall ym mherchnogaeth y Cyngor yng nghanol canol y ddinas, Llyfrgell ac Oriel Gelf Casnewydd.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Rydym yn credu y bydd y cynnig yn beth da iawn i'r ddinas, a'r cyngor, mewn sawl ffordd. Bydd yn dod â chyfleuster newydd i Gasnewydd; yn rhoi help llaw i fusnesau newydd ac yn gwneud defnydd gwell o un o'n hadeiladau wrth leihau costau yn y Ganolfan Wybodaeth.
"Credwn bod cryn diddordeb yn y math hwn o gyfleuster yn dod i Gasnewydd.
"Bydd yn cynnig gofod hyblyg a chefnogaeth i arloeswyr ac entrepreneuriaid brwd, mae'n gweddu â'r nod o wneud Casnewydd yn hyb digidol ac mae'n bartneriaeth arall gyda'r sector preifat fydd o fudd i'r ddinas a'r economi.
"Mae cysyniad yr Orsaf Wybodaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn ac rydym am barhau â hynny yng nghanol y ddinas. Bydd symud gwasanaethau i Sgwâr John Frost yn eu gwneud nhw hyd yn oed yn fwy hygyrch i breswylwyr gan ei fod yn agos at feysydd parcio a'r orsaf fysus ac yn gwneud defnydd gwell o'r llyfrgell ac adeilad yr amgueddfa."