Dysgu mwy am fod yn ofalwr maeth yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Friday 24th January 2020
Fel rhan o ymgyrch 2020 i recriwtio mwy o ofalwyr maeth yn y ddinas, mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal sesiynau galw heibio yn hwyrach y mis hwn.
Bydd ein tîm Maethu Casnewydd cyfeillgar wrth law i sgwrsio a phobl sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn ac i ateb unrhyw gwestiynau.
Galwch draw unrhyw bryd rheng 2pm a 4pm neu 5pm a 7pm ar Ddydd Mercher 29 Ion yn Ystafell y Castell, Canolfan Casnewydd.
Carem ddiolch i Casnewydd Fyw am gael cynnal y sesiynau.
Os oes diddordeb maethu yng Nghasnewydd gennych ond na allwch ddod i'r sesiynau, mae rhagor o wybodaeth yma http://www.newport.gov.uk/cy/Care-Support/Fostering-and-adoption/Fostering.aspx neu ffoniwch 01633 210272.